Awstralia yn ennill cyfres y Lludw yn erbyn Lloegr
Mae tîm criced Awstralia wedi ennill cyfres y Lludw yn erbyn Lloegr yn Adelaide.
Fe enillodd Awstralia y drydedd gêm brawf o 82 rhediad sy’n golygu eu bod nhw wedi ennill y tair gêm brawf gyntaf allan o bump gan ddal eu gafael ar y tlws.
Mae Lloegr wedi colli’r gyfres mewn 11 diwrnod o griced yn unig a dyma’r pedwerydd tro’n olynol iddyn nhw golli cyfres y Lludw.
Fe fydd yn rhaid iddyn nhw geisio ennill un o’r ddwy gêm sy’n weddill ym Melbourne neu Sydney os am osgoi chwalfa o 5-0 yn y gyfres.
Fe fydd y gêm nesaf ym Melbourne ar ddydd Gŵyl San Steffan.
Llun: Cricket Australia
