Ymosodiad Bondi: Prif Weinidog Awstralia yn cyhoeddi adolygiad cuddwybodaeth
Mae Prif Weinidog Awstralia Anthony Albanese wedi cyhoeddi adolygiad i'r heddlu a'r asiantaethau cuddwybodaeth cenedlaethol yn dilyn yr ymosodiad ar Draeth Bondi yn Sydney.
Bu farw 15 o bobl yn yr ymosodiad wedi i dad a mab ddechrau saethu pobl mewn gŵyl Iddewig ddydd Sul diwethaf.
Mae'r digwyddiad wedi cael ei ddatgan fel un terfysgol, a dywed yr heddlu fod yr ymosodwyr wedi eu "hysgogi gan ideoleg y Wladwriaeth Islamaidd".
Mae'r dyn a gafodd ei amau o saethu nifer wedi cael ei gyhuddo.
Mae Naveed Akram yn wynebu 59 cyhuddiad gan gynnwys 15 o lofruddiaeth ac un o weithredu terfysgol.
Fe gafodd Akram ei anafu yn ystod yr ymosodiad.
Mae Akram hefyd yn wynebu 40 o gyhuddiadau o achosi niwed corfforol difrifol gyda'r bwriad o lofruddio ac un cyhuddiad o arddangos symbol mudiad terfysgol sydd wedi ei wahardd.
Cafodd y dyn arall wnaeth saethu at bobl ar y traeth sef ei dad, Sajid Akram, ei ladd gan yr heddlu yn ystod yr ymosodiad.
Mae diwrnod o fyfyrdod yn cael ei gynnal ddydd Sul.
Fe ddechreuodd y munud o dawelwch am 18:47, neu 07:47 yn y DU, sef yr amser a ddechreuodd yr ymosodiad.
Dywedodd Mr Albanese: "Fe wnaeth yr erchyllterau a gafodd eu hysgogi gan ISIS ddydd Sul diwethaf atgyfnerthu'r amgylchedd diogelwch sy'n newid yn gyflym yn ein cenedl.
"Mae angen i'n asiantaethau diogelwch fod yn y safle gorau posib i ymateb."
Mae'r gymuned Iddewig wedi dweud sawl gwaith fod yr ymosodiad yn sioc, ond ddim yn syrpreis.
Mae Prif Weinidog Israel Benjamin Netanyahu wedi cyhuddo Albanese, yn ogystal ag arweinwyr gwledydd eraill sydd wedi cydnabod gwladwriaeth Balesteinaidd, o wobrwyo Hamas, sef y grŵp oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad ar Israel ar 7 Hydref 2023.
Wedi'r ymosodiad ddydd Sul diwethaf, fe ddywedodd Netanyahu nad oedd llywodraeth Albanese "wedi gwneud unrhyw beth i roi'r gorau ar ledaeniad gwrthsemitiaeth yn Awstralia".
Mae Prif Weinidog Awstralia yn gwadu'r cyhuddiad.
Ychwanegodd y byddai'r adolygiad cuddwyboddaeth, sydd i'w gyhoeddi erbyn Ebrill 2026, yn canolbwyntio ar sicrhau y byddai gan awdurdodau adnoddau i fynd i'r afael â therfysgaeth.
