A ddylai S4C ail-greu Y Dyn ‘Nath Ddwyn y Dolig?

Y Dyn 'Nath Ddwyn y Dolig

Fe fyddai un o ysgrifenwyr y ffilm 'Y Dyn ‘Nath Ddwyn y Dolig' wrth ei bodd yn gweld y glasur yn cael ei ail-chreu, 40 mlynedd ers iddi gael ei darlledu am y tro cyntaf.

Cafodd y ffilm gerddorol, sydd yn adrodd hanes dyn busnes o’r enw Mordecai yn ceisio diddymu’r Nadolig yng Nghymru, ei darlledu’n wreiddiol ar S4C ar Ddiwrnod Nadolig 1985.

Fel rhan o'r arlwy Nadolig eleni, fe fydd y sianel yn ail-ddangos y ffilm ar ddydd Sul 21 Rhagfyr.

Wedi’i hysgrifennu gan Hywel Gwynfryn a Caryl Parry Jones, a’i chyfarwyddo gan Endaf Emlyn, mae’r ffilm yn cael ei hystyried fel un o glasuron Nadolig y sianel.

Ac wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Caryl Parry Jones, a wnaeth hefyd gyfansoddi caneuon y ffilm, ei bod yn falch y bydd cenhedlaeth newydd yn cael y cyfle i fwynhau’r ffilm.

“Mae’n braf gwybod pan ti’n meddwl am y peth rŵan, fydd plant y plant oedd yn edrych ar y ffilm yma, bod nhw’n mynd i fod yn edrych arni – a hyd yn oed eu plant nhw o bosib!”

Er ei bod yn credu bod elfennau o’r ffilm wedi dyddio 40 mlynedd yn ddiweddarach, mae gan y ffilm “deimlad” sydd dal yn unigryw.

“Y peth pwysica oedd bod ‘na ffilm feel good i’r teulu yn mynd allan Diwrnod Dolig, achos odd na ddim rhai yn Gymraeg,” meddai.

“Y bwriad oedd bod ni’n creu musical efo’r jeopardy – a oedd y Nadolig yn mynd i fod neu beidio? A wedyn ath hi o fana. 

Image
Caryl Parry Jones
Caryl Parry Jones (Llun: S4C)

“Roedd ‘na just lot fawr o ddyddiau a nosweithiau efo Hywel a finna’ yn ein gegin ni yn Canton a finna’n sgwennu bob gair yn long-hand, achos doedd na’m cyfrifiaduron mewn golwg ar y pryd. 

“Odd hi’n broses mor neis, achos bo gen i gymaint o hoffter am y Nadolig beth bynnag. A lot fawr o chwerthin rownd y bwrdd.”

Fe ychwanegodd: “Mae ‘na rei pethau yn y ffilm wreiddiol ti’n crinjio dipyn bach, fel rhannau o’r diwedd. Ond mae hynny’n wir am unrhyw waith pan ti’n edrych yn ôl arno fo. 

“Ac mae’n wir am ffilmiau eraill hefyd, fel Mary Poppins, ag os wyt ti’n edrych arni rŵan efo llygad modern, ti’n gweld lle mae’r green screens. Ond ‘di o ddim yn torri ar hud y peth.”

'Arbennig'

I un aelod o’r cast, y darlledwr Aled Samuel, sydd yn portreadu Ffurat, un o gyfeillion y dihiryn Mordecai, dyma oedd ei rôl gyntaf fel actor.

“Dwi’n credu oedden ni gyd yn sylweddoli’n fuan iawn bod ni mewn cynhyrchiad lle oedd y gwerthoedd cynhyrchu yn uchel iawn. 

“Mae’r gerddoriaeth yr un mor ganadwy, os yw hynny’n air, nawr ag oedden nhw bryd hynny. Roedd y manylder yna, y cywreinrwydd, y setiau a’r dillad yn wych, a’r gerddoriaeth.

Image
Roedd Aled Samuel yn portreadu Fferat (canol), un o weithwyr y dihiryn, Mordecai (Meic Povey - chwith)
Roedd Aled Samuel yn portreadu Fferat (canol), un o weithwyr y dihiryn, Mordecai (Meic Povey - chwith)

“Dwi’n siŵr mi oedd ‘na gyllideb eitha mawr iddo fe ar y pryd, ond cast bach iawn oedd yna mewn gwirionedd. Oedd Siwan Bowen Davies yn ferch 10 oed ar y pryd, ag efo lot i ysgwyddo yn rôl Carys, ond mi nath hi fe gydag aplomb. Mi oedd hi’n wych. 

“Ac Emyr Wyn wrth gwrs yn hen pro, yn wych yn ei rôl. Oedd gen ti fi a Louis, Fferat a Nycls, a wedyn y dyn mwya’ arswydus ar wyneb y ddaear, Meic Povey - nefoedd wen oedd e’n rhoi llon twll o ofn i ni’n actio ynddo fe. Oedd e’n ddyn ddrwg arbennig o dda. Oedd na arswyd yn berthyn iddo fe.”

'Trist'

Mae dathlu ei ail-ddarllediad 40 mlynedd yn dod a theimladau cymysg iddo erbyn hyn, meddai.

“Yn edrych yn ôl arno fe, dwi’n sylweddoli faint o fraint oedd e i fod yn ran ohono fe. 

“Oedd e’n ffilm hynod o boblogaidd ar y pryd a dwi ddim yn credu bod S4C wedi gwneud unrhyw beth ers hynny o’r safon yna, lle’r oedd popeth wedi cael ystyriaeth. 

“Maen nhw di neud ffilmiau Nadolig dros y blynydde, ond rwy’n credu mai hwnna odd yr un cynta adloniannol i’r teulu i gyd. Fi’n credu does dim un cystal wedi bod ers hynny. 

Image
Y Dyn Nath Ddwyn y Dolig

“Mae’n beth trist mewn un ystyr bod ni’n sôn am ffilm a wnaethpwyd 40 mlynedd yn ôl a bod ni’n dathlu, achos mae werth ei ddathlu, ond lle mae’r dynion eraill nath ddwyn y Dolig dros y 40 mlynedd ynde? Lle ydyn ni o safbwynt adloniant yn S4C? 

“Mae pobl yn gwylio rhaglenni ar wahanol fformatau erbyn hyn, ar wahanol lwyfannau, dwi ddim yn siŵr os yw adloniant i’r teulu yn beth sydd mor ffasiynol bellach.”

Ac yn ôl Caryl Parry-Jones, fe fyddai cael y cyfle i ail-greu’r ffilm ar gyfer cynulleidfa newydd yn 2025 yn cael ei groesawu’n fawr.

“Mi fyswn i wrth fy modd os fysa na remake,” ychwanegodd.

“Erbyn hyn, fyse gen ti gymaint o ddewis o gast achos ar y pryd oedd na ddim Coleg Cerdd a Drama, a dim lot o fynd ar golegau sioe gerdd, ac mae gen ti gymaint o bobl ifanc rŵan fysa’n gallu nailio’r holl beth. Sa Emyr Wyn dal yn Siôn Corn wrth gwrs! 

“Ond fysa remake yn neis a fysa’n ni’n gallu trwsio’r diwedd wedyn. Fysa’n ni’n gallu ail recordio’r caneuon efo gerddorfa hefyd, fysa hynny mor neis.”

Gwyliwch y Dyn 'Nath Ddwyn y Dolig am 16.10 ar Ddydd Sul 21 Rhagfyr, ar S4C.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.