
Tanau LA: 16 o bobl bellach wedi marw
Mae 16 o bobl bellach wedi marw wrth i danau gwyllt barhau i ledu drwy ardaloedd yn Los Angeles.
Mae’r awdurdodau yno wedi rhybuddio bod ‘na ddisgwyl i nifer y meirw barhau i gynyddu dros y dyddiau nesaf.
Mae mwy na 10,000 o adeiladau wedi'u dinistrio wrth i bedwar tân bellach losgi yn y ddinas yng Nghaliffornia a'r cyffiniau.
Y gred yw mai tân Palisades, sy’n lledu ar lan y môr rhwng ardaloedd Malibu a Santa Monica, ydy’r fwyaf dinistriol yn hanes LA.
Darllenwch argraffiadau gohebydd Newyddion S4C, Liam Evans, o'r dinistr yn Altadena, yma:
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1878165546752934390
Mae’r gwasanaethau tân yno wedi bod yn gollwng sylwedd lliw pinc ar dân Palisades mewn ymdrech i ddod a’r tân fwyaf i ben.
Y gobaith yw y byddai’r sylwedd, sydd wedi’i wneud o halwynau, yn atal y tân rhag ymledu pellach drwy newid y ffordd y mae’n llosgi. Mae wedi’i liwio’n llachar fel bod modd i’w gweld.
Daw ymhlith pryderon am dywydd gwyntog ddydd Sul all achosi’r tanau gwyllt i ledu ymhellach unwaith eto.


Rheoli
Mae’r gwasanaeth tân wedi llwyddo i reoli 11% o dân Palisades, medden nhw, ond mae’n parhau i losgi ar hyd dros 23,654 erwau (tua 96km sgwar).
Mae'r tân hwnnw'n bygwth llosgi drwy ardal gyfoethog o’r enw Brentwood sydd yn gartref i amgueddfa gelf Getty. Fe gafodd dinasyddion yno gwybod yn hwyr ddydd Sadwrn y bydd yn rhaid iddyn nhw adael eu cartrefi.
Mae’r tân wedi dinistrio traean o ddinas Malibu, meddai’r Maer Doug Stewart.
Tân Eaton ydy’r ail dân fwyaf yn LA ar hyn o bryd, a hynny’n lledu drwy’r gogledd ger Pasadena. Mae’n parhau i losgi ar hyd dros 14,118 erwau (tua 57km) ac mae’r gwasanaeth tân wedi llwyddo i reoli 15% ohono.

'Colli ffrind'
Mae 11 o bobl wedi marw mewn cysylltiad â thân Eaton ac mae pump o bobl wedi marw mewn cysylltiad â than Palisades. Mae 13 o bobl yn parhau ar goll.
Mae’r seren Hollywood Jennifer Garner, sydd wedi serennu yn ffilmiau fel Pearl Harbour a 13 Going on 30, wedi dweud ei bod hi wedi “colli ffrind” i’r tanau.
Wrth siarad â MSNBC yn yr Unol Daleithiau, dywedodd: “Dwi wedi colli ffrind a fethodd i ddianc mewn pryd.”
Bydd rhaglen Newyddion S4C yn fyw gyda'r diweddaraf o Los Angeles am 19.15 nos Sul.
Lluniau: Wochit