
Tanau LA: 'Mae’r dinistr yn anhygoel'

Tanau LA: 'Mae’r dinistr yn anhygoel'
Cartref ar ôl cartref, stryd ar ôl stryd, mae maint y dinistr yn ardal Altadena yn LA yn anodd i amgyffred.
Mae tai cyfan yma bellach yn rwbel a’r unig ran sydd dal i sefyll ydi’r simdde sydd wedi ei greithio â duwch y fflamau.
Wrth gerdded drwy olion y cartrefi ambell waith mi ddewch chi ar hyd dodrefnyn neu eitem sy’n atgoffa chi lai nag wythnos yn ôl mi oedd rhain yn gartrefi i deuluoedd.
Bwrdd bwyd lle mae’r metel bellach wedi plygu neu feic i blentyn lle mae’r plastig wedi toddi’n llwyr.
Mewn ambell dŷ hefyd mae cwmwl o fwg yn dal i godi ac yn atgoffa chi bod y dinistr yma yn dal yn fyw.

Mae aelodau’r fyddin rŵan yn rhan o’r ymdrech enfawr yma i gadw pobl Los Angeles yn ddiogel ac mewn ardaloedd lle mae gorchymyn gadael mae’u ceir anferthol ar ben y lon.
Mewn nifer o lefydd yr unig bobl sy’n cael croesi’r ffin hwn ydi’r gwasanaethau brys ac aelodau’r wasg.
Mae rhai sydd wedi gadael eu cartrefi ac eisiau dychwelyd yn dal i aros i glywed pryd gawn nhw fynd nôl i weld be sy’n weddill o’u cartrefi a chymunedau.
Wrth siarad efo un dyn lleol, John Welch, mae’n dweud i’r tanau gydio yn eithriadol o gyflym a dim ond cyfeiriad y gwynt sydd i gyfri am ba dai gydiodd a pha rai oroesodd.
“Dyma pam mi welwch chi rhai tai yn ulw ac yna’r un drws nesa bron fel bod o heb gael ei effeithio.
“Dwi ‘di byw yma ar hyd fy oes, mae’r dinistr yn anhygoel”, meddai.
Mae’n dangos fideos ar y ffôn ohono fo a’i fab yn ffoi rhag y tanau gan ddweud iddo deimlo’n lwcus fod ei dŷ a’i eiddo dal yma.

O deithio drwy rai o’r ardaloedd sydd wedi eu heffeithio waetha mi sylwch chi yn syth ar yr ysbryd cymunedol.
Trigolion yn helpu ei gilydd ac yn canmol ymdrechion cymdogion wrth geisio arbed cartrefi rhag y tanau.
Ond yn ardal Altadena mae pobl yma yn rhagdybio y gallai gymryd misoedd cyn iddyn nhw gael dychwelyd.
Mae’r dŵr llawn lludw, polion a cheblau trydan wedi eu rhwygo ac mae’n anodd meddwl lle mae dechrau clirio'r holl rwbel.

Gyda’r gwyntoedd yn cael y bai gan nifer am ba mor gyflym ymledodd y tanau, mae ‘na boeni unwaith eto y gallai gwaeth ddod nos Lun gyda disgwyl hyrddiadau o fwy na 50mya mewn rhai mannau.
Er bod y sefyllfa yn well nag oeddi ddechrau’r wythnos o bosib, mae’r frwydr ymhell o fod ar ben a theimlad yn ninas LA y gallai’r gwaethaf fod eto i daro.
Bydd rhaglen Newyddion S4C yn fyw gyda'r diweddaraf o Los Angeles am 19.15 nos Sul.