Newyddion S4C

AS Ynys Môn yn galw ar ddatblygwyr safle Penrhos i 'gydnabod ei arwyddocâd' i'r gymuned

Llinos Medi, Parc Arfordirol Penrhos

Mae Aelod Seneddol Ynys Môn yn galw ar gwmni sydd yn bwriadu codi bron i 500 o fythynnod gwyliau ar safle Penrhos ar yr ynys i ystyried ei bwysigrwydd i'r gymuned.

Mae Llinos Medi AS wedi galw ar The Seventy Ninth Group i "gydnabod arwyddocâd" safle Parc Arfordirol Penrhos i bobl leol.

Daw ei sylwadau wedi i'r cwmni gyhoeddi ddydd Llun eu bod wedi cwblhau'r gwaith o brynu'r safle a'u bod nhw'n bwrw ymlaen gyda’r datblygiad gwerth £250 miliwn.

Mae gwrthwynebiad chwyrn wedi bod i'r cynllun yn lleol dros nifer o flynyddoedd.

Roedd rhai trigolion yn pryderu y bydden nhw'n colli mynediad i'r parc sydd o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

Ond fe gollodd ymgyrchwyr o grŵp Achub Penrhos eu brwydr gyfreithiol yn erbyn y datblygiad yn yr Uchel Lys ym mis Tachwedd.

Bydd y safle 200 erw yn cael ei ddatblygu fel cyrchfan hamdden, gan gynnwys 492 "caban o ansawdd premiwm", meddai'r cwmni.

Y gred yw y bydd y safle newydd wedi’i gwblhau ymhen pum mlynedd, ac mae disgwyl i’r cabanau cyntaf fod ar gael i ymwelwyr o haf 2025.

'Cyfrifoldeb i wrando'

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Iau, dywedodd Llinos Medi AS: "Rwy'n deall sensitifrwydd a chymhlethdod safle Penrhos. 

"Mae’r newyddion am ei bryniant, gan gwmni newydd, yn gyfle pwysig i’r gymuned leol leisio eu pryderon, a chyfrifoldeb y cwmni yw gwrando a chydweithio."

Fe aeth ymlaen i ddweud mai "nid amser ar gyfer gemau gwleidyddol yw hwn, ond cyfle i roi gwybodaeth glir, gywir i’r gymuned am sefyllfa’r safle.

"Fel rhywun sydd wedi treulio oriau di-ri gyda fy nheulu ym Mhenrhos, rwy’n annog y cwmni i gydnabod arwyddocâd y safle i’n cymuned."
 
Ychwanegodd ei bod wedi creu taflen ffeithiau "er mwyn eich grymuso gyda’r gwir".
 
Mae Newyddion S4C wedi gwneud cais am ymateb gan The Seventy Ninth Group.
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.