Newyddion S4C

Safle hamdden dadleuol Parc Penrhos ar Ynys Môn gam yn agosach

Safle hamdden dadleuol Parc Penrhos ar Ynys Môn gam yn agosach

Mae Cyngor Môn wedi dweud eu bod yn edrych ymlaen at "sefydlu perthynas waith hirdymor" gyda chwmni sydd yn bwriadu codi bron i 500 o fythynnod gwyliau ar safle Penrhos ar yr ynys.

Roedd gwrthwynebiad chwyrn wedi bod i'r cynllun yn lleol dros nifer o flynyddoedd.

Collodd ymgyrchwyr o grŵp Achub Penrhos eu brwydr gyfreithiol yn erbyn y datblygiad yn yr Uchel Lys ym mis Tachwedd.

Ddydd Llun dywedodd cwmni The Seventy Ninth Group eu bod wedi cwblhau'r gwaith o brynu'r safle a'u bod nhw’n bwriadu bwrw ymlaen gyda’r datblygiad gwerth £250 miliwn.

Bydd y safle 200 erw yn cael ei ddatblygu fel cyrchfan hamdden, gan gynnwys 492 "caban o ansawdd premiwm", medd y cwmni.

Y nod meddai The Seventy Ninth Group oedd croesawu “miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn”.

Ond bydd y bwyty a chyfleusterau hamdden, pwll nofio, sba, campfa a chaeau chwaraeon a chyrtiau tenis awyr agored hefyd yn hygyrch i drigolion lleol, meddai'r cwmni.

Ar hyn o bryd y gred yw y bydd y safle wedi’i gwblhau ymhen pum mlynedd, a disgwylir i’r cabanau cyntaf fod ar gael i ymwelwyr o Haf 2025.

‘Edrych ymlaen’

Rhoddwyd caniatâd cynllunio amlinellol yn 2016 i adeiladu'r 500 o fythynnod gwyliau yn y parc a sefydlwyd ar gyfer y gymuned yn 1971 gan hen ffatri Alwminiwm Môn.

Ond dadleuodd grŵp Achub Penrhos fod caniatâd cynllunio wedi dod i ben a bod rhaid ailgyflwyno’r datblygiad cyfan ar gyfer caniatâd cynllunio newydd.

Ond penderfynodd barnwr y llynedd bod digon o waith wedi'i wneud, gan wrthod dadl y grŵp.

Dywedodd arweinydd Cyngor Ynys Môn, y Cynghorydd Gary Pritchard, ei fod yn ddatblygiad posib sylweddol o ran yr economi leol.

“Croesewir yr ymrwymiad i symud ymlaen mewn modd sensitif a chynhwysol, yn ogystal â’r ymrwymiad i ymgysylltu â’r gymuned leol,” meddai.

“Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r Seventy Ninth Group i ddatblygu themâu allweddol gan gynnwys cyflogaeth leol, cyfleoedd cadwyn gyflenwi, cynaliadwyedd a diogelu’r Gymraeg.”

Dywedodd Jake Webster, Rheolwr Gyfarwyddwr The Seventy Ninth Group ei fod yn “edrych ymlaen at ddatblygu’r safle yn gyrchfan wyliau o safon fyd-eang ar y cyd â’r gymuned leol, wrth sicrhau ein bod yn gwarchod yr amgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Ein nod yw rhoi cyfle i deuluoedd o’r Deyrnas Unedig ac ymwelwyr o bob rhan o’r byd brofi’r hyn sydd gan yr ardal wych hon i’w gynnig.”

Llun: JD Media Film

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.