Heddlu'n ymchwilio ar ôl i geir gael eu rhoi ar dân mewn pentref yn ne Cymru
Mae’r heddlu yn ymchwilio i achosion honedig o losgi'n fwriadol ar ôl i bedwar car gael eu rhoi ar dân mewn pentref yn ne Cymru.
Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i Lyn Llwyfen yn Llanbadrach, ger Caerffili, am tua 21.30 ar nos Wener 20 Rhagfyr, yn dilyn adroddiadau fod dau gar ar dân yno.
Am 01.50 ar fore Mercher 25 Rhagfyr, cafodd y swyddogion eu galw i’r ardal unwaith eto wedi i ddau gar arall gael eu rhoi ar dân.
Mae’r llu yn parhau gyda’u hymholiadau ac yn gofyn i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth neu luniau CCTV, i gysylltu â nhw drwy ddyfynnu’r cyfeirnod 2400420287.
Daw wedi adroddiadau o achosion pellach o losgi bwriadol honedig o geir mewn cymunedau yn y de dros y penwythnos.
Llun: Google Maps