Newyddion S4C

Rhagor o geir wedi eu rhoi ar dân mewn cymunedau yn y de

29/12/2024
Llosgi bwriadol

Mae achosion pellach o losgi bwriadol honedig o geir wedi digwydd mewn cymunedau yn y de dros y penwythnos.

Daeth yr achosion diweddaraf yn Llanharan a Rhydyfelin.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r De: "Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i ymosodiadau llosgi bwriadol ar dri cherbyd yn apelio am wybodaeth. 

"Credir bod y tanau wedi eu cynnau'n fwriadol rhywbryd rhwng 20.30 a 21.30 ddydd Gwener, Rhagfyr 27. 

"Roedd un o'r cerbydau yn Park View, Llanharan, y tu allan i gartref teuluol lle roedd plentyn ifanc yn bresennol. 

"Ychydig yn ddiweddarach cafodd dau gerbyd eu rhoi ar dân yn Oak Street, Rhydyfelin, lle cafodd y rhai sydd dan amheuaeth eu gweld ar luniau teledu cylch cyfyng."

Daw'r ymosodiadau diweddaraf yn dilyn achosion o losgi bwriadol o gerbydau yn ardal Dinas Powys ar 21 Rhagfyr.

Cafodd dau gerbyd ar Stryd Stacey yn Ninas Powys eu llosgi ag un arall ar ffordd gyfagos. Yn ddiweddarach roedd achos arall yng Nghwenfô.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.