Rhaglen i frechu rhag brech yr ieir yn dechrau ledled Cymru
Mae rhieni'n cael eu hannog i dderbyn brechlyn a fydd yn cael ei gyflwyno yng Nghymru o ddydd Gwener ymlaen i ddiogelu plant rhag brech yr ieir.
Bydd pob plentyn rhwng 12 a 18 mis ledled y DU yn cael cynnig brechlyn rhag brech yr ieir (chickenpox) - a elwir hefyd yn varicella - am y tro cyntaf.
Bydd brechiad MMRV yn nawr yn helpu i warchod plant yn erbyn pedwar haint gwahanol – y frech goch, clwy’r pennau, rwbela a brech yr ieir.
Dywedodd Dr Christopher Johnson, Pennaeth y Rhaglen Afiechydon Ataliadwy Trwy Frechu yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, bod y brechiad yn ffordd ddiogel o warchod plant.
“Mae sicrhau bod eich plentyn yn derbyn yr holl frechiadau arferol i blant yn hanfodol i warchod eu hiechyd,” meddai.
“Rwy'n annog pob rhiant i fynd â'u plant i'w apwyntiadau brechu pan fyddant wedi’u gwahodd.”
Mae’r rhaglen yn cael ei chyflwyno ar ôl cyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu.
Bydd y brechlyn ar gael mewn rhaglen ddwy ddos am 12 a 18 mis oed. Bydd rhaglen dal i fyny ar gael i blant hŷn hyd at chwech oed yn cael ei chynnig yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
'Difrifol'
Mae 300 o bobl neu fwy eu derbyn i'r ysbyty gyda brech yr ieir bob blwyddyn yng Nghymru.
Dywedodd yr Athro Isabel Oliver, Prif Swyddog Meddygol Cymru ei fod yn afiechyd cyffredin iawn ond gall fod yn ddifrifol i rai.
“Mae'r rhan fwyaf o blant gyda brech yr ieir yn gwella ar ôl tua wythnos ond ceir rai plant afiechyd mwy difrifol ac mae angen eu derbyn i'r ysbyty,” meddai.
“Mae’r frechlyn MMRV yn diogelu eich plentyn rhag y frech goch, clwy’r pennau, rwbela a brech yr ieir i arbed bywydau ac atal cymhlethdodau o heintiad.”
Gall cymhlethdodau yn sgil varicella ddatblygu megis heintiau bacterol neu friwiau croen, gan gynnwys streptococws grŵp A, ac mewn achosion prin, gyflyrau fel enseffalitis, niwmonitis a strôc.
Gall y cymhlethdodau olygu bod yn rhaid mynd i’r ysbyty ac, ar adegau prin gallant arwain at farwolaeth, meddai Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei fod “yn falch” o weld y newid.
“Mae tystiolaeth yn dangos bod y brechlyn yn ddiogel ac yn effeithiol ac yn helpu i atal plant rhag mynd yn sâl iawn,” meddai.
“Byddwn yn annog rhieni i dderbyn y cynnig i frechu, a phan fo gennych gwestiynau i siarad â'ch meddyg teulu am ragor o wybodaeth.”
