Nigel Farage yn dweud ei fod dan bwysau i wneud yn dda yn etholiadau mis Mai

Nigel Farage

Mae arweinydd plaid Reform UK, Nigel Farage, wedi dweud ei fod dan bwysau i wneud yn dda yn etholiadau mis Mai, a fydd yn cynnwys etholiadau Senedd Cymru.

Mae disgwyl i’w blaid wario £5m er mwyn ceisio sicrhau llwyddiant yn yr etholiadau sydd hefyd yn cynnwys etholiad i Senedd yr Alban ac etholiadau lleol yn Lloegr.

Mae arolygon barn diweddar yn awgrymu y byddai’r blaid yn ennill mwyafrif yn San Steffan ac yn ail-agosaf i Blaid Cymru yn etholiad y Senedd.

Dywedodd Nigel Farage y bydd pobl yn dechrau gofyn cwestiynau am ei arweinyddiaeth os nad yw ei blaid yn llwyddo yn yr etholiadau ar 7 Mai.

Dywedodd arweinydd Reform fod yn rhaid iddyn nhw “fynd amdani”.

“Fe fyddwn ni’n dod allan ohono heb geiniog yn y cyfrif banc a phawb wedi blino’n lân… Ond dyma’r digwyddiad pwysicaf rhwng nawr a’r etholiad cyffredinol," meddai.

“Mae dyfodol y Prif Weinidog, dyfodol arweinydd yr wrthblaid ac yn wir fy nghryfder cymharol i fel arweinydd Reform yn dibynnu ar hynny.

“Os ydyn ni’n gwneud yn wael, bydd pobl yn dechrau gofyn cwestiynau. Mae fy holl ffocws ac egni ar y cynllunio a’r paratoi ar eu cyfer.”

Dywedodd y byddai “pwyslais mawr ar ymgyrchu ar y cyfryngau cymdeithasol” i gyrraedd pobl nad oedd wedi pleidleisio yn etholiad cyffredinol 2024.

“Ein prif gynulleidfa yw pobl sydd heb bleidleisio, i’w hannog i gofrestru a chynnig newid sylfaenol iddyn nhw,” meddai.

Mae Mr Farage wedi dod dan bwysau yn dilyn cyfres o adroddiadau gan y Guardian sy’n cynnwys honiadau gan gyd-ddisgyblion yng Ngholeg Dulwich, yr ysgol breifat yr oedd Farage wedi ei mynychu ar ddiwedd y 1970au a dechrau’r 1980au.

Dywedodd arweinydd Reform na fyddai’r honiadau – gan gynnwys iddo ddweud wrth gyd-ddisgybl Iddewig fod “Hitler yn iawn” – yn cael effaith etholiadol oherwydd eu bod yn cael eu gweld fel ymosodiad arno gan y “cyfryngau prif ffrwd”.

“Nid yw’n cael unrhyw effaith,” meddai. “Efallai y bydd yn helpu ein cefnogaeth graidd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.