‘Pryder’ wedi’r flwyddyn brysuraf erioed i Dîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen
Mae un o ymddiriedolwyr Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen wedi mynegi “pryder” ar ôl iddyn nhw dderbyn 186 o alwadau yn 2025 — y nifer uchaf erioed.
Roedd hynny’n cynnwys achub teulu oedd wedi mynd am dro ar fynydd Pen y Ole Wen ar Nos Galan.
Fe aeth y grŵp yn sownd ar eu ffordd i lawr o’r mynydd ar ôl diwrnod allan ar y Carneddau, a bu’n rhaid anfon pum aelod o’r tîm achub i’w harwain i lawr.
“Diweddglo addas i’n blwyddyn pen-blwydd yn 60 oed, a gyda 186 o alwadau allan, ein prysuraf erioed!” meddai llefarydd ar ran yr achubwyr.
Dywedodd Gareth Pritchard, un o ymddiriedolwyr Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen, wrth Radio Cymru ei fod yn “bryderus faint o alwadau rydym ni’n cael rŵan.”
“Mae’r cynnydd yn mynd ymlaen o flwyddyn i flwyddyn,” meddai. “Ac yn drist iawn yw’r nifer o farwolaethau hefyd ar y mynyddoedd o gwmpas Dyffryn Ogwen dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
“Mae’r galwadau yn cynyddu ac yn aml iawn mae gennym fwy nag un galwad ar yr un adeg, yn enwedig ar benwythnosau.
“Ers adeg y clo, mae mwy o bobl yn mynd allan i’r mynyddoedd, sydd yn beth da. Ond mae cyfryngau cymdeithasol yn rhoi gwybodaeth allan sydd ddim bob tro yn glir, a’n denu pobl i lefydd peryglus.
“Rydym am i bobl gynllunio cyn cychwyn — er enghraifft bore ‘ma, beth yw’r tywydd. Mae’n oer ofnadwy ar ben y mynyddoedd bore ‘ma, a’r gwynt yn chwythu sy’n gwneud hi’n oerach.
“Ydi’r offer a’r sgiliau gennych chi ar gyfer y mynyddoedd heddiw? Mae’n aeafol ac yn oer.”
Pwysleisiodd Gareth Pritchard fod gwirfoddolwyr wrthi’n ateb galwadau bob yn ail ddiwrnod.
“Mae’r bobl yma’n gweithio, ac mae’n anodd dal galwadau bob awr o’r dydd a’r nos,” meddai.
“Mae gennym bobl sydd yn brofiadol iawn, yn egnïol, yn gwneud yr hyfforddiant ac yn ymateb ym mhob tywydd. Ond gobeithiwn na fydd y ffigur yma’n cynyddu ymhellach yn y blynyddoedd i ddod.”
