Parhau i geisio adnabod dioddefwyr tân mewn tafarn yn Y Swistir
Parhau i geisio adnabod dioddefwyr tân mewn tafarn yn Y Swistir
Mae’r ymdrechion i adnabod yn swyddogol pobl fu farw mewn tân mewn tafarn yn y Swistir a laddodd tua 40 o bobl ac anafu 115 arall yn parhau ddydd Gwener.
Mae 60 o bobl yn derbyn gofal yn ysbyty Sion yn Valais, gyda mwy yn cael eu trin mewn mannau eraill, ac mae “nifer sylweddol” mewn cyflwr difrifol, meddai’r awdurdodau.
Roedd y dafarn yn boblogaidd ymhlith pobl ifanc, ac roedd nifer o'r dioddefwyr rhwng 15 a 22 oed.
Fe ddigwyddodd y tân am 01:30 amser lleol (00:30 GMT) ar Ddydd Calan, mewn bar o'r enw Le Constellation yn Crans-Montana. Fe gafodd 42 ambiwlans, 13 hofrennydd a thri cherbyd argyfwng eu galw i ymateb â'r digwyddiad.
Mae swyddogion yn rhybuddio y gallai gymryd dyddiau neu hyd yn oed wythnosau i adnabod pawb a fu farw, a oedd yn cynnwys nifer o ymwelydd o dramor.
Dywedodd yr awdurdodau ddydd Iau nad oedden nhw eto yn gwybod faint o bobl oedd yn y bar pan ddigwyddodd y ffrwydrad.
Mae Arlywydd y Swistir, Guy Parmelin, wedi ei alw’n “un o’r trasiedïau gwaethaf y mae ein gwlad wedi’i brofi”.
Mae’r awdurdodau yn ei drin fel tân damweiniol, a does “dim awgrym” bod unrhyw un wedi ymosod ar y dafarn, medden nhw.
Mae Gweinyddiaeth Dramor yr Eidal wedi dweud bod 16 o ddinasyddion Eidalaidd yn eisiau, a bod rhwng 12 a 15 o rai eraill yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty.
Dywedodd llysgenhadaeth Prydain yn y Swistir ddydd Iau ei bod yn monitro'r sefyllfa, ond nad yw wedi derbyn cais am gymorth eto.
Mae staff consylaidd wrth law i gefnogi unrhyw ddinasyddion Prydeinig sydd wedi cael eu heffeithio, meddai datganiad gan y Swyddfa Dramor.
Mae Crans-Montana yn dref sgïo sydd wedi'i lleoli yng nghanol Alpau'r Swistir, tua dwy awr o brifddinas y wlad, Bern.
