Torfeydd wedi ymgasglu ger Côr y Cewri fore Sadwrn er mwyn dathlu heuldro’r gaeaf
Mae miloedd o bobl wedi ymgynnull ar safle Côr y Cewri yn Wiltshire ddydd Sadwrn i ddathlu heuldro'r gaeaf.
Ddydd Sadwrn yw diwrnod byrraf y flwyddyn, gyda’r haul yn codi am 08:16 ac yn machlud am 16.06 yng Nghymru.
Fe fydd y dyddiau yn dechrau ymestyn o hyn allan ond bydd y wawr ychydig funudau yn hwyrach nes dechrau mis Ionawr.
Yr heuldro yw un o’r unig achlysuron blynyddol pan fydd English Heritage yn caniatáu i bobl fynd yn agos at gerrig Côr y Cewri.
Mae ‘cerrig gleision’ byd-enwog Côr y Cewri yn dod o safle yn agos at Fynyddoedd y Preseli yn Sir Benfro.
Does neb wir yn gwybod pam y cafodd Côr y Cewri ei adeiladu.
Ond mae gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth wedi dweud ei fod yn debyg mai “cofeb i uno ffermwyr cynnar Prydain” oedd pwrpas cylch cerrig Côr y Cewri.
Mae 43 o ‘gerrig gleision’ y cylch cerrig ger Caersallog yn Wiltshire yn ne Lloegr yn tarddu o Fynyddoedd y Preseli– rhyw 140 milltir i ffwrdd.
Ond fe wnaeth gwyddonwyr ddarganfod yn ddiweddar fod un o gerrig Côr y Cewri, sef Maen yr Allor, wedi tarddu o’r Alban.
Mae gwyddonwyr Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Coleg Llundain (UCL) bellach yn ddweud fod y darganfyddiad hwnnw yn cefnogi’r damcaniaeth bod y cylch cerrig wedi’i adeiladu fel cofeb i uno ffermwyr cynnar Prydain bron i 5,000 o flynyddoedd yn ôl.
Mae heuldro'r gaeaf wedi cael ei ddathlu gan ddiwylliannau ledled y byd ers miloedd o flynyddoedd.
Yn hemisffer y gogledd, mae Côr y Cewri yn gyrchfan pwysig ar gyfer yr achlysur.
Mae'r gofeb Neolithig - a gymerodd gannoedd lawer o flynyddoedd i'w hadeiladu - yn cyd-fynd â lleoliad yr Haul ganol gaeaf a chanol haf. Mae'r cerrig wedi'u gosod i fframio machlud haul canol gaeaf a chodiad haul canol haf.
Mae'n debyg y byddai Prydeinwyr filoedd o flynyddoedd yn ôl yn cynnal seremonïau yno ar heuldro'r gaeaf a'r haf.
Llun: Andrew Matthews / PA