Côr y Cewri: 'Cofeb i uno pobl cynnar Prydain' medd arbenigwyr Prifysgol Aberystwyth
Mae gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth wedi dweud ei fod yn debyg mai “cofeb i uno ffermwyr cynnar Prydain” oedd pwrpas cylch cerrig Côr y Cewri.
Mae 43 o ‘gerrig gleision’ y cylch cerrig ger Caersallog yn Wiltshire yn ne Lloegr yn tarddu o Fynyddoedd y Preseli yng ngorllewin Cymru – rhyw 140 milltir i ffwrdd.
Ond fe wnaeth gwyddonwyr ddarganfod yn ddiweddar fod un o gerrig Côr y Cewri, sef Maen yr Allor, wedi tarddu o’r Alban.
Mae gwyddonwyr Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Coleg Llundain (UCL) bellach yn ddweud fod y darganfyddiad hwnnw yn cefnogi’r damcaniaeth bod y cylch cerrig wedi’i adeiladu fel cofeb i uno ffermwyr cynnar Prydain bron i 5,000 o flynyddoedd yn ôl.
Mewn erthygl ymchwil yn gyfnodolyn Archaeology International maen nhw wedi dadansoddi arwyddocâd tarddiad Maen yr Allor, gan gadarnhau bod yr holl gerrig sy'n ffurfio Côr y Cewri wedi'u cludo i Wastadedd Caersallog o filltiroedd lawer i ffwrdd.
Maen nhw’n ddweud fod cysylltiadau pellter hir Côr y Cewri yn cryfhau’r ddamcaniaeth y gallai fod gan yr heneb Neolithig ryw ddiben uno yn y Brydain hynafol.
Dywedodd cyd-awdur y papur, yr Athro Richard Bevins o Brifysgol Aberystwyth: “Mae ein hymchwil fel gwyddoniaeth fforensig.
“Rydym ni’n dîm bach o wyddonwyr taear, pob un yn dod â'i faes arbenigedd ei hunain; y cyfuniad hwn o sgiliau sydd wedi ein galluogi i adnabod ffynonellau’r cerrig gleision, ac Maen yr Allor nawr.”
'Pwrpas gwleidyddol'
Mae’r ffaith bod yr holl gerrig yn tarddu o ranbarthau pell - sy’n ei wneud yn unigryw ymhlith dros 900 o gylchoedd cerrig yn y DU – yn awgrymu bod “pwrpas gwleidyddol yn ogystal â chrefyddol i’r cylch cerrig,” meddai’r awdur arweiniol yr Athro Mike Parker Pearson o Sefydliad Archaeoleg UCL.
Dywedodd bod Côr y Cewri yn “ddathlu eu cysylltiadau tragwyddol â’u hynafiaid a’r cosmos.”
Côr y Cewri ydy mynwent fwyaf ei oes ac mae rhai archeolegwyr o’r gred y gallai fod wedi bod yn deml grefyddol, yn arsyllfa hynafol a chalendr solar.
Yn ôl gwyddonwyr Prifysgol Aberystwyth, mae’r ymchwil newydd hon hefyd yn ychwanegu “dimensiwn gwleidyddol” iddo.