
Gorwario £2.5 miliwn ar gynllun amddiffyn arfordir Aberaeron
Mae bron i £2.5 miliwn o orwario wedi bod ar gynllun i amddiffyn arfordir Aberaeron yng Ngheredigion, yn ôl gwaith ymchwil gan wefan Newyddion S4C.
Cafodd cynllun Amddiffyn Arfordir Aberaeron ei gymeradwyo gan Gyngor Sir Ceredigion yn 2023, gyda'r bwriad o amddiffyn y dref i'r dyfodol rhag llifogydd arfordirol.
Mae’r cynllun gwerth £31.5 miliwn wedi cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru (£26.85m) a Chyngor Sir Ceredigion (£4.74m).
Cwmni BAM sydd yn gyfrifol am y gwaith o gwblhau'r cynllun.
Wedi bron i ddwy flynedd o adeiladu mae'r gwaith bron â dod i ben, chwe mis yn hwyrach na'r disgwyl - ac mae'r cynllun wedi arwain at orwariant sylweddol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru mai Cyngor Sir Ceredigion sy'n gyfrifol am gyflawni'r cynllun.
Fe gyfeiriodd BAM ymholiad Newyddion S4C am y gorwario at Gyngor Ceredigion.
Gorwario
Mae adroddiad diweddar gan Gyngor Sir Ceredigion ar wariant yr awdurdod ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-25 yn dangos bod gorwario o £2.48 miliwn wedi digwydd ar y cynllun arfordirol yn Aberaeron.
Ac mae'n bosib y gallai maint y gorwario fod wedi cynyddu, gan fod yr adroddiad blynyddol ond yn ymestyn hyd at ddiwedd mis Mawrth eleni, ac nid yw'n cynnwys y chwe mis diwethaf o waith ar y cynllun.
Yn ôl yr 'Adroddiad Alldro Cyfalaf 2024/25' a gyhoeddwyd ar 1 Gorffennaf, dywedodd Cyngor Sir Ceredigion fod "sensitifrwydd masnachol" wedi cyfrannu at y gorwario ar y cynllun arfordirol.
'Alldro Cyfalaf' yw'r union swm sy'n cael ei wario ar gynllun, o'i gymharu â'r swm oedd wedi ei glustnodi'n wreiddiol.

'Prif bryder ariannol'
Wrth gyflwyno'r adroddiad i Bwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu'r Cyngor ar ddechrau mis Gorffennaf, dywedodd y swyddog arweiniol corfforaethol, Duncan Hall, mai ei brif bryder ariannol tymor byr oedd cynllun Amddiffyn Arfordir Aberaeron.
Dywed yr adroddiad: "Mae'r cynllun yn dangos ei fod £2.5m o flaen ei broffil cyllidebol ar 31/03/25, sydd fel arfer yn ddangosydd cryf fod rhai agweddau dros y gyllideb neu y tu ôl i'r amserlen. Yn ystod 24/25 mae cyllid ychwanegol o £2.272m wedi'i neilltuo i ddarparu cyllid wrth gefn posib ar gyfer y cynllun.
"Mae hyn oherwydd bod nifer fach o ddigwyddiadau gwerth uchel sydd wedi peri iawndal (hynny ydi, amrywiannau o’r contract) ar y prif gontract adeiladu, ac nad yw pob un ohonynt wedi dod i fwcwl yn llwyr yn gytundebol. Felly mae elfen o sensitifrwydd masnachol yn parhau."
'Cost derfynol'
Mae Newyddion S4C wedi gofyn i'r cyngor beth yn union yw maint y gorwario ar y cynllun erbyn hyn, ond dywed y cyngor nad oes modd cadarnhau'r swm nes bod y gwaith wedi'i gwblhau.
"Ni allwn ddarparu cost derfynol y cynllun nes bod y gwaith a'r trefniadau cytundebol wedi'u cwblhau'n llawn," meddai llefarydd.
"Ar 31 o Awst eleni mae'r cyngor wedi gwneud taliadau i'r prif gontractwr gwerth cyfanswm o £31.609 miliwn."
Mae cwmni BAM wedi bod yn cwblhau’r gwaith dros bron i ddwy flynedd.
Mae hyn yn cynnwys adeiladu wal gynnal cerrig a gosod grwynau pren newydd i atal effeithiau'r tonnau.
Mae giatiau llanw hefyd wedi eu gosod er mwyn gallu atal gorlifiad y dŵr mewn tywydd garw.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn darparu cyllid i Awdurdodau Rheoli Risg yng Nghymru i helpu i gyflawni nodau'r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru.
"Unwaith y bydd cyllid wedi'i sicrhau, mae'r asiantaethau unigol hyn wedyn yn gyfrifol am gyflawni cynlluniau o'r fath.
"Felly, Cyngor Sir Ceredigion sy'n gyfrifol am gynllun rheoli risg arfordirol Aberaeron."