Ceredigion: Rhyddhau dyn yn ddigyhuddiad wedi marwolaeth menyw mewn tân
Mae'r heddlu sydd yn ymchwilio i dân mewn tŷ yn ardal Bwlch-llan, Llanbedr Pont Steffan, lle cafwyd hyd i gorff menyw brynhawn dydd Llun, wedi rhyddhau dyn oedd wedi ei arestio.
Roedd y dyn 58 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ond dywed Heddlu Dyfed-Powys fod y dyn bellach wedi ei ryddhau heb unrhyw gamau pellach yn ei erbyn.
Mae'r fenyw a fu farw wedi ei henwi'n lleol fel Heather Edwards.
Mae ei marwolaeth yn cael ei thrin fel un sydd heb ei egluro ac nid yw swyddogion yn chwilio am unrhyw un arall ar hyn o bryd mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Nid yw y corff wedi ei adnabod yn ffurfiol hyd yma, ac mae disgwyl y gallai hyn gymryd peth amser.
Bydd presenoldeb yr heddlu yn yr ardal am y tro tra bod yr adeilad aeth ar dân yn cael ei wneud yn ddiogel yn strwythurol, a bydd swyddogion yn parhau â'u hymholiadau.