Dyn o Ben-y-bont i geisio cyflawni pedair ras Ironman mewn pedwar diwrnod

Newyddion S4C
Leigh

Pedair ras Ironman mewn pedwar diwrnod, a hynny mewn pedair cornel o’r Deyrnas Unedig.

Dyna’r her i Leigh Wallis o’r Pîl ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sydd yn ceisio gosod record byd cwbl newydd. 

Er mwyn cyflawni her Ironmanm, mae’n rhaid nofio am 2.4 milltir, seiclo am 112 o filltiroedd, ac yna rhedeg marathon. 

Yn achos Leigh, bydd angen gwneud hynny i gyd bedair gwaith o fewn pedwar diwrnod ym mhob un o wledydd Prydain os am osod record byd newydd.

"Dechre yn Iwerddon, dros nos, fferi i’r Alban. Dechre eto ar dydd Gwener, a wedyn symud i lawr i’r Cotswolds yn Lloegr a wedyn gorffen ar dydd Sul – Ironman Tenby, Dinbych y Pysgod, a gorffen ar y carped coch os bydd popeth yn mynd i plan," meddai.

Ceisio gwthio ei hun i’w eitha yw’r bwriad, ond mae codi arian yn rhan fawr o’r her hefyd.

"Dw i’n mynd i godi arian i ddwy elusen bwysig iawn, Maggie's a National Autistic Society, a dw i isie trio cael gymaint o arian â phosib i’r ddwy elusen," meddai. 

"Mae pawb yn nabod rhywun sydd wedi cael canser, ac mae fy nai yn autistic, felly mae’n agos at fy nghalon."

'Teimlo'n hyderus'

Gyda llai na 24 awr i fynd cyn i’r her ddechrau, sut mae’r nerfau?

"Dw i’n hyderus iawn fydda i’n cwblhau’r sialens ond y cwestiwn yw, fydd y corff yn dal allan?" meddai.

"Dw i ddim wedi neud pedwar dydd o training fel hyn ers dechre, ond dw i’n hyderus fydda i’n gosod y record byd yma. 

"Dwi ‘di bod yn siarad am y sialens yma ers 20 mis neu fwy, dw i jyst isie dechre nawr – dwi’n hyderus fyddai’n gosod y record byd yma."

Image
Leigh

Mae’r tywydd wedi bod yn stormus iawn dros y dyddiau diwethaf, ond dyw hynny ddim yn amharu dim ar hwyliau Leigh.

"Dw i’n meddwl bod y tywydd fel hyn yn rhan o’r her ac yn neud e mor gyffrous," meddai.

"Mae’n teimlo’n dwl i dweud hynny, ond dw i’n edrych ymlaen, bring it on."

Ar ôl gorffen Ironman Dinbych-y-Pysgod, bydd Leigh yn cyflwyno gwybodaeth GPS i sefydliad Guinness World Records. 

Fe fyddan nhw’n asesu’r data, ac yn edrych ar dystiolaeth fideo, ac ymhen wythnos, mae’n gobeithio cael gwbod a yw e wedi  llwyddo yn ei ymdrechion i osod record byd cwbl newydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.