Undeb yn pasio cynnig o ddiffyg hyder yn arweinyddiaeth Prifysgol Bangor
Mae aelodau undeb UCU ym Mhrifysgol Bangor wedi pasio cynnig o ddiffyg hyder yn is-ganghellor a phrif swyddog cyllid y brifysgol yn sgil toriadau diweddar.
Yn ôl swyddogion, bydd aelodau rŵan yn ystyried gweithredu diwydiannol gan wrthwynebu toriadau i staff a chyllidebau sy’n cael effaith ar iechyd meddwl gweithwyr meddai'r undeb.
Ym mis Chwefror eleni fe gyhoeddodd y brifysgol y byddai’n rhaid gwneud arbedion o £15m, oedd yn cyfateb ar y pryd i tua "200 o swyddi".
Erbyn mis Mai roedd hynny wedi gostwng, gyda thargedau arbedion y brifysgol wedi eu lleihau i "tua £5.3 miliwn...gan gynrychioli tua 78 o swyddi cyfwerth ag amser llawn".
Mewn datganiad ddydd Mercher, dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol eu bod wedi gorfod gweud penderfyniadau "anodd ond angenrheidiol" er mwyn sicrhau "dyfodol hirdymor y brifysgol".
Fel nifer o sefydliadau addysg uwch mae Prifysgol Bangor yn dweud eu bod wedi wynebu heriau cyllid, gan ddweud bod chwyddiant, cynnydd treth yswiriant gwladol a newidiadau ôl Brexit yn dylanwadu ar y sector.
Ond yn ôl undeb UCU, yr undeb mwyaf ar gyfer darlithwyr, hyfforddwyr ac academyddion, mae trafodaethau rhyngddynt a cynrychiolwyr y brifysgol wedi "torri lawr".
Ddiwedd mis Awst fe basiwyd pleidlais o ddiffyg hyder yn erbyn yr is-ganghellor, yr Athro Edmund Burke, a’r prif swyddog cyllid, Martyn Riddleston.
'Anhrefn llwyr'
Mewn cyfweliad â Newyddion S4C, dywedodd Vivek Thuppil, is-lywydd cangen yr undeb bod y toriadau yn cael effaith andwyol ar iechyd meddwl staff a bod y sefyllfa yn "anhrefn llwyr".
"Mae’r staff sy’n weddill dan bwysau enfawr gyda llwyth gwaith ac ma nhw’n cael eu gwthio i breaking point," meddai.
"Mae aelodau’n flin, mae 'na lot o ddicter o fewn yr aelodaeth."
Yn ôl Prifysgol Bangor, mae dros 200 o staff bellach wedi gadael y brifysgol naill ai trwy ymddeol, ymddiswyddo neu gadael o'u gwirfodd.
Maen nhw hefyd yn dweud bod 10 swydd yn parhau mewn perygl, gyda'r undeb yn rhybuddio bod cynllun i wneud hynny drwy ddiswyddiadau gorfodol.
Arian
Ym mis Chwefror fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru £19m yn rhagor i gefnogi’r sector addysg uwch ar draws Cymru.
Yn ôl cynrychiolwyr UCU, fe dderbyniodd Prifysgol Bangor beth o’r gronfa honno ac mae nhw'n anfodlon na chafodd y cyllid, yn ôl yr hyn y maen nhw'n ei ddeall, ei ddefnyddio i achub swyddi.
Dweud mae'r bifysgol i'r cyllid gael ei ddyrannu gan y rheoleiddiwr MEDR a bod rheolau penodol yn y modd yr oedd yn rhaid ei wario.
Ond mae'r Undeb yn mynnu eu bod yn anfodlon.
"Da ni ddim wedi’n darbwyllo fod yr Is-Ganghellor wedi sortio’r broblem yma," meddai Dr Thuppil.
"Da ni’n credu y gallai nhw ddod nôl gyda rhagor o ddiswyddiadau yn y dyfodol.
"Rydym wedi gofyn iddyn nhw gadarnhau na fydd rhagor o ddiswyddiadau rhwng 2025-26 ond mae nhw wedi gwrthod hynny."
Pleidlais
Yn sgil hyn mae’r undeb yn dweud eu bod yn bwriadu cynnal pleidlais o fewn yr aelodaeth i gynnig gweithredu diwydiannol yn y gwanwyn.
"Mi fydd gennym fandad cryf ar gyfer streicio os oes rhagor o swyddi yn y fantol ac mi fyddwn i allan ar y llinelli piced," meddai.
Wrth ymateb fe ddywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Bangor eu bod wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd er lles dyfodol y brifysgol.
"Roedd yr ailstrwythuro diweddar yn gam anodd ond angenrheidiol i'n helpu i gyrraedd targedau ariannol a sicrhau arbedion hanfodol," meddai.
"Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r bwrdd gweithredol wedi gweithio'n agos gyda chydweithwyr ac undebau llafur y campws, gan weithio'n galed i osgoi diswyddiadau gorfodol trwy gynnig ffordd i bobl adael yn wirfoddol a thrwy adleoli staff lle bynnag y bo modd.
"Buom yn canolbwyntio, nid yn unig ar leihau costau, ond hefyd ar wella effeithlonrwydd a chreu model gweithredu cynaliadwy a fydd yn cefnogi staff a myfyrwyr mewn cyd-destun lle mae ein hincwm yn is."
Ychwanegodd: "Rydym yn cydnabod bod ailstrwythuro wedi achosi straen ac ansicrwydd i staff a myfyrwyr, ac rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i gefnogi ein cymuned a’i llesiant.
"Fodd bynnag, roedd yr ymarfer hwn yn rhan anochel a hanfodol o sicrhau dyfodol hirdymor y Brifysgol mewn amgylchedd heriol iawn yn y maes addysg uwch".