Gweithwyr Ofgem i fynd ar streic yng Nghaerdydd
Bydd gweithwyr y rheoleiddiwr ynni Ofgem yng Nghaerdydd yn mynd ar streic am wythnos mewn anghydfod dros gyflogau, swyddi ac amodau gwaith.
Dywedodd undeb y PCS y bydd ei aelodau yn swyddfeydd Ofgem yng Nghaerdydd, Llundain, a Glasgow yn gweithredu rhwng 29 Medi a 3 Hydref.
Dywedodd yr undeb fod aelodau wedi mynd ar streic o'r blaen, gan ychwanegu bod bron i 150 o staff wedi ymuno â'r undeb ers i'r camau gweithredu cyntaf gael eu cyhoeddi.
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol undeb PCS, Fran Heathcote: “Bydd y streic hon yn nodi cynnydd sylweddol gan aelodau Ofgem. Mae eu penderfyniad wedi gweld llinellau piced sylweddol yn cael eu trefnu ledled y DU a dros 100 o aelodau newydd yn ymuno â'r gangen.”
Dywedodd llefarydd ar ran Ofgem: “Roeddem yn siomedig gyda phenderfyniad y PCS i ariannu gweithredu diwydiannol pellach.
“Mae tua thraean o weithlu Ofgem yn aelodau o'r PCS, ac rydym yn parhau i ymgysylltu'n adeiladol â nhw a'n holl staff i ddod o hyd i atebion teg a chynaliadwy sy'n adlewyrchu anghenion ein pobl a'r sefydliad.
“Fel gyda gweddill y sector cyhoeddus, mae’n hanfodol ein bod mor effeithlon ac effeithiol â phosibl ar gyfer y cartrefi a’r busnesau rydyn ni’n eu gwasanaethu, gan sicrhau hefyd ein bod ni’n denu ac yn cadw’r bobl a’r sgiliau sydd eu hangen arnom.
“Ein blaenoriaeth yw lleihau’r aflonyddwch i’n gwaith a pharhau i wasanaethu defnyddwyr ledled Prydain.”