Cyngor yn gwario mwy na £1 miliwn y flwyddyn ar ofal un plentyn

Plentyn

Mae cyfarfod o Gyngor Sir Conwy wedi clywed eu bod nhw'n gwario mwy na £1 miliwn y flwyddyn am ofal ar gyfer un plentyn.

Clywodd aelodau o bwyllgor llywodraethu ac archwilio Cyngor Sir Conwy fod yr awdurdod yn gwario arian sylweddol ar ofal cymdeithasol ar gyfer plant.

Yn ystod diweddariad ar berfformiad archwilio mewnol y cyngor rhwng mis Ebrill a mis Mehefin eleni, fe wnaeth y cynghorydd Paul Luckock o Abergele godi'r pwnc o gomisiynu gwasanaethau y tu allan i'r cyngor, gan gynnwys ar ofal plant.

Roedd hynny'n cynnwys talu am ofal plant mewn cartrefi plant dros y ffin yn Lloegr.

Dywedodd y Cynghorydd Luckock ei fod yn "fater dwys" ac roedd angen cwestiynu a oedd yr awdurdod yn cael "gwerth am arian".

"Rydym yn gwario symiau enfawr o arian: rwy'n golygu, yn ôl fy ngwybodaeth orau gan y gwasanaethau cymdeithasol, rydym yn gwario dros filiwn o bunnoedd y flwyddyn ar un plentyn yn unig," meddai'r Cynghorydd Luckock.

"Rwy'n gwbl gefnogol o wario arian ar blant, ond rydw i am weld ei fod yn werth am arian.

"Ac os yw cartrefi'r plant hynny yn Lloegr yr ydym yn eu defnyddio - ac rydym yn eu defnyddio - a Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn dweud, 'nid yw hyn yn werth am arian' yna byddwn yn dweud nad oes llawer o faterion y mae angen i ni eu blaenoriaethu fwy o ran llywodraethu ac archwilio na'r mater hwnnw."

Dywedodd cadeirydd y cyfarfod, Ian Whyte, ei fod yn rhannu pryder y Cynghorydd Luckock a'i fod wedi ei "synnu gan y symiau arian dan sylw".

Ychwanegodd y byddai'r pryderon yn cael eu cofnodi, eu dilyn, a’u hystyried gan swyddogion i’w cynnwys mewn adroddiad cynllun gwaith yn y dyfodol.

'Herio costau'

Wrth siarad yn dilyn y cyfarfod, fe wnaeth y Cynghorydd Luckock egluro fod lleoliadau rhai plant mewn cartrefi arbenigol yn unol â gorchymyn llys.

"Mae’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn dweud bod cynghorau yn Lloegr ar gyfartaledd yn gwario £318,400 ar bob plentyn sydd yn cael ei roi mewn cartref plant yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024," meddai.

"Ond mae’r adroddiad yn dod i’r casgliad nad yw’r symiau enfawr yma yn cynrychioli gwerth am arian."

Ychwanegodd:  "Rydym yn dod â phlant yn ôl o gartrefi drud yn Lloegr lle bo modd i’n tri chartref pwrpasol yng Nghyngor Sir Conwy.

"Mae gan rai plant anghenion hynod gymhleth, ac mae eu cadw’n fyw yn her.

"Mae gan rai seicosis, yn hunan-niweidio'n ddifrifol, wedi dioddef cam-drin, esgeulustod, trawma, neu'n camddefnyddio cyffuriau/sylweddau.

"Mae gan rai anableddau corfforol cymhleth iawn, cyflyrau iechyd cronig."

Ychwanegodd: "Mae gwerth am arian yn her benodol pan fydd rhai lleoliadau’n cael eu cyfarwyddo gan y llys."

Fe wnaeth cynghorwyr gefnogi adroddiad archwilio’r pwyllgor llywodraethu ac archwilio. 

Mae Cyngor Sir Conwy wedi derbyn cais am sylw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.