Gwlad yn dewis Anthony Cook fel ymgeisydd yn is-etholiad Caerffili
Mae Gwlad wedi dewis y cyn-filwr Anthony Cook fel ymgeisydd yn is-etholiad Caerffili.
Mae Mr Cook yn byw yn Ystrad Mynach ac fe fydd yr is-etholiad ar 23 Hydref.
Daw'r is-etholiad yn dilyn marwolaeth yr AS Llafur Hefin David, a oedd wedi gwasanaethu fel aelod o'r Senedd dros Gaerffili ers 2016.
Mae Plaid Cymru wedi dewis cyn-arweinydd Cyngor Caerffili, Lindsay Whittle, fel eu hymgeisydd ar gyfer yr is-etholiad.
Llŷr Powell yw ymgeisydd Reform UK ar gyfer yr is-etholiad.
Gareth Potter sydd wedi ei ddewis gan y Ceidwadwyr Cymreig fel eu hymgeisydd.
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud hefyd y bydd blaid yn ymladd yr is-etholiad ond nid yw wedi cyhoeddi ymgeisydd eto.
Llun: Gwlad