'Pryderon difrifol': Bargen twf i'r gogledd wedi creu 35 o 4,000 o swyddi hyd yma
Mae pryderon ynghylch perfformiad cynlluniau oedd i fod i drawsnewid economïau rhanbarthol Cymru, gyda chynllun ar gyfer y gogledd wedi creu dim ond 35 o’r 4,000 o swyddi a addawyd hyd yma.
Dywedodd un o bwyllgorau'r Senedd fod ganddyn nhw "bryderon difrifol" am Fargen Twf y Gogledd a Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Un o amcanion Bargen Twf y Gogledd oedd creu 4,000 o swyddi fel rhan o fuddsoddiad o £1 biliwn gan Lywodraethau Cymru a'r DU i'r ardal sy'n cynnwys Gwynedd, Sir Fôn, Conwy, Sir Ddinbych, Wrecsam a Sir y Fflint.
Mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn y Senedd yn dweud bod y cynllun "wedi cael trafferthion" ar ôl i un o'i phrosiectau allweddol yn Nhrawsfynydd fynd i’r gwellt.
Roedd penderfyniad Great British Nuclear i beidio ag ystyried Trawsfynydd fel safle ar gyfer Adweithyddion Modiwlar Bach wedi cael effaith fawr ar y cynlluniau. Roedd y prosiect, yn wreiddiol, i fod i ddarparu 12.5% o'r swyddi a 40% o’r buddsoddiad ar gyfer y cynllun gogledd Cymru.
Ychwanegodd y pwyllgor mai 35 o swyddi oedd wedi eu creu yn unig hyd yma, a bod "angen ei weddnewid ar frys os yw am gyflawni er lles pobl gogledd Cymru".
Yng Nghaerdydd cafodd cytundeb ei greu yn 2016 a fyddai'n gweld £1.2 biliwn yn cael ei fuddsoddi i'r brifddinas a'r siroedd o'i hamgylch dros gyfnod o 20 mlynedd.
Roedd y rhain yn cynnwys datblygu Metro De Cymru ac ailddatblygu gorsaf bŵer Aberddawan ym Mro Morgannwg.
Mae'r pwyllgor yn credu, dan gadeiryddiaeth Andrew RT Davies, bod "heriau mawr" wrth gwblhau'r gwaith ail-ddatblygu.
Cafodd y safle ei brynu am £8.6 miliwn, gyda £30 miliwn wedi'i glustnodi ar gyfer gwaith dymchwel.
Mae'r pwyllgor yn dweud ei fod yn bosibl y bydd angen dros £1 biliwn i ddatblygu'r safle a bod "pryderon am faint y cyllid sydd ei angen a'r effaith bosibl ar gyllid cyhoeddus".
'Buddsoddiad hirdymor'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y buddsoddiadau yn rhai a fydd yn elwa cymunedau yn yr hirdymor.
"Gyda Llywodraeth y DU, rydym yn parhau i gefnogi’r holl Gytundebau Dinas a Thwf yng Nghymru ac yn monitro canlyniadau eu gweithgareddau," medden nhw.
"Mae Bargen Twf y Gogledd yn strategaeth fuddsoddi hirdymor 15 mlynedd dan arweiniad awdurdodau lleol i wella gwytnwch economaidd a denu buddsoddiad preifat parhaus i Ogledd Cymru.
"Mae'r Fargen wedi adnewyddu ei phortffolio o brosiectau yn ddiweddar i adlewyrchu newidiadau i fuddsoddiadau posibl ar draws rhanbarth gogledd Cymru, fel prosiect Trawsfynydd.
"Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn gweithredu'n annibynnol yn ei benderfyniadau buddsoddi. Mae hyn yn cynnwys prynu a datblygu safle Gorsaf Bŵer Aberddawan.
"Rydym yn deall bod yr adolygiad annibynnol sy'n edrych ar y broses gaffael ar gyfer y contract i ddymchwel Gorsaf Bŵer Aberddawan ar y gweill.
"Mae swyddogion yn pwyso am ragor o wybodaeth, a byddwn yn ceisio sicrwydd wrth y Brifddinas-Ranbarth eu bod yn dysgu'r holl wersi sydd eu hangen i atal hyn rhag digwydd eto."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Mae Llywodraeth y DU wedi buddsoddi £790m i greu Cytundebau Twf, sydd wedi eu cefnogi gan fuddsoddiad tebyg gan Lywodraeth Cymru, er mwyn gyrru ffyniant ym mhob rhan o Gymru.
"Maen nhw eisoes wedi creu miloedd o swyddi a phrosiectau unigol sylweddol gan gynnwys adfywio canol dinas Abertawe, datblygu Doc Penfro, ehangu KLA yng Nghasnewydd, creu Hwb Trafnidiaeth Porth a buddsoddi yng Nghanolfan Peirianneg ac Opteg Menter yn Wrecsam.
“Twf economaidd yw ein blaenoriaeth gyntaf ac rydym yn disgwyl i bob Bargen Twf gyflawni er lles pobl Cymru.”
'Allweddol'
Mae'r pwyllgor hefyd wedi mynegi pryderon am fargeinion Bae Abertawe a Chanolbarth Cymru.
Ymysg y pryderon am y cynlluniau yma roedd effeithiau chwyddiant a heriau economaidd unigryw.
Dywedodd Andrew RT Davies AS, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn y Senedd, ei fod wedi mynegi’r pryderon wrth Lywodraethau Cymru a'r DU.
Mae'r llythyr yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ymateb i'r materion a godwyd ac amlinellu sut y byddant yn cefnogi'r bargeinion yn y dyfodol.
“Dylai’r pedair bargen ddinesig a thwf fod yn sbardun allweddol ar gyfer twf economaidd yng Nghymru, gan greu dyfodol economaidd disglair," meddai.
"Er bod arwyddion addawol, yn enwedig ym Mae Abertawe, rhaid inni fynd i'r afael â phryderon difrifol, yn enwedig yng Ngogledd Cymru a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd.
"Rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am eglurder ar frys ynghylch y cyllid sydd ar gael ar gyfer Bargen Twf y Gogledd.
“Mae monitro priodol ac arweinyddiaeth gyson yn hanfodol i sicrhau bod pob Bargen yn cael ei chefnogi i gyrraedd y targedau uchelgeisiol ac i gyflawni o ran y buddsoddiad cyhoeddus sylweddol.
"Mae tryloywder, eglurder a gweledigaeth hirdymor yn hanfodol.”