Ceredigion: Arestio dyn ar ôl dod o hyd i gorff mewn tŷ yn dilyn tân
Mae’r heddlu wedi arestio dyn ar ôl dod o hyd i gorff mewn tŷ yn dilyn tân yn ardal Bwlchllan yng Ngheredigion ddydd Llun.
Mae dyn 58 oed wedi'i arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac mae'n parhau yn y ddalfa ar hyn o bryd.
Fe gafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i adroddiad am dân mewn tŷ yn y pentref sydd i’r gogledd o Lanbedr Pont Steffan.
“Roedd y difrod i'r eiddo yn helaeth ac yn anffodus, gallwn gadarnhau bod corff wedi'i ganfod yn y fan a'r lle,” meddai’r heddlu.
“Mae ein meddyliau gyda'u teulu a'u ffrindiau yn yr amser trist hwn.”