Sir Benfro: Arestio dyn ar ôl i ddyn 34 oed farw wrth weithio mewn adeilad

Llangwm

Mae dyn wedi ei arestio yn dilyn marwolaeth dyn 34 oed a gafodd ei anafu wrth weithio mewn adeilad yn Sir Benfro. 

Bu farw’r dyn ar ôl iddo gael ei anafu tra’n gweithio mewn eiddo yn ardal Llangwm yn y sir ddydd Gwener. 

Cafodd ei gludo i’r ysbyty wedi’r digwyddiad ond bu farw o ganlyniad i’w anafiadau meddai Heddlu Dyfed-Powys. 

Mae dyn 60 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ddynladdiad drwy esgeulustod difrifol. 

Mae wedi cael ei ryddhau dan ymchwiliad ar hyn o bryd. 

Cafodd dyn arall 64 oed ei gyfweld yn wirfoddol fel rhan o’r ymchwiliad hefyd. 

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod y crwner a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cael gwybod am farwolaeth y dyn 34 oed. 

Mae ei deulu hefyd wedi cael gwybod ac yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol. 

Llun: Google

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.