Comisiwn y Cenhedloedd Unedig yn dweud bod Israel wedi cyflawni hil-laddiad

Newyn Gaza

Mae comisiwn gan y Cenhedloedd Unedig wedi dod i'r casgliad bod Israel wedi cyflawni hil-laddiad ar lain Gaza.

Yn ôl yr adroddiad mae yna seiliau rhesymol i ddweud bod pedwar allan o'r pump o fesurau hil-laddiad wedi eu cyflawni ers dechrau'r rhyfel gyda Hamas yn 2023.

Y pedwar mesur yw lladd aelodau o grŵp, achosi niwed difrifol corfforol a meddyliol, achosi amodau pwrpasol er mwyn dinistrio grŵp  o bobl ac atal genedigaethau.

Mae'r adroddiad yn nodi tystiolaeth gan arweinwyr Israel a phatrwm o arwain gan luoedd Israel fel sail i'w bwriad o gyflawni hil-laddiad.

Ond mae Israel wedi gwrthod yr adroddiad yn llwyr gan ddweud ei fod yn "ffug".

Maent yn dweud bod y tri arbenigwr ar y panel yn gwasanaethu fel "dirprwyon ar gyfer Hamas" a'u bod wedi dibynnu ar "anwireddau gan Hamas"sydd wedi eu "tanseilio yn llwyr yn barod".

Fe ddechreuodd lluoedd Israel ymgyrch yn Gaza mewn ymateb i ymosodiad Hamas ar 7 Hydref 2023 yn ne Israel. 

Yn ystod yr ymosodiad cafodd tua 1,200 o bobl  eu lladd a 251 eu cymryd yn wystlon. 

Mae o leiaf 64,905 o bobl wedi eu lladd yn ystod ymosodiadau Israel yn Gaza yn ôl gweinyddiaeth iechyd Gaza sy'n cael ei rhedeg gan Hamas.

Mae rhan fwyaf o'r boblogaeth wedi gorfod symud ac mae arbenigwyr gyda'r Cenhedloedd Unedig yn dweud bod newyn yn ninas Gaza.

Cafodd y comisiwn gan y Cenhedloedd Unedig ei sefydlu yn 2021. Mae'n cael ei gadeirio gan Navi Pillay, a oedd yn arlywydd tribiwnlys rhyngwladol ar hil-laddiad Rwanda.

Mae'r comisiwn yn rhybuddio gwledydd eraill o dan gonfensiwn Genefa bod ganddyn nhw ddyletswydd i "arbed ac i osgoi hil-laddiad". Maent yn dweud os nad ydyn nhw yn gwneud hyn y gallen nhw hefyd fod yn rhannol gyfrifol. 

 

 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.