Trump i gyrraedd Prydain ar ymweliad gwladol
Mae disgwyl i Donald Trump ddechrau ei ymweliad gwladol a'r Deyrnas Unedig pan fydd yn cyrraedd nos Fawrth.
Dyma ei ail ymweliad a'r wlad ac fe fydd yn aros gyda'r Brenin Charles a'r Frenhines yng Nghastell Windsor.
Mae'r ymweliad yn un anghyffredin. Fel arfer dyw Arlywyddion yr Unol Daleithiau sydd yn gwneud y rôl yn eu hail dymor ddim yn cael gwahoddiad i ddod ar ymweliad gwladol unwaith eto.
Does dim digwyddiadau gyda'r cyhoedd wedi eu trefnu ar gyfer yr ymweliad gyda'r disgwyl y bydd miloedd yn protestio yn ystod y ddau ddiwrnod.
Bydd protest yn cael ei gynnal gan glymblaid Stopiwch Trump ar strydoedd Windsor nos Fawrth a gorymdaith trwy ganol Llundain ddydd Mercher.
Yn ôl y mudiad Myfyrwyr Sosialaidd bydd cannoedd o fyfyrwyr hefyd yn cerdded allan o ysgolion, colegau a phrifysgolion ar draws y wlad ddydd Mercher er mwyn dangos eu gwrthwynebiad.
Yn ogystal â'r Brenin a'r Frenhines mae disgwyl i Dywysog a Thywysoges Cymru hefyd annerch yr Arlywydd Trump.
Bydd gwledd fawreddog nos Fercher ac fe fydd Trump a'r Prif Weinidog, Keir Starmer yn cyfarfod ddydd Iau er mwyn cynnal trafodaethau gwleidyddol.
Mae'r ymweliad yn gyfle i lywodraeth y DU ddylanwadu ar y ffordd mae Trump yn meddwl am faterion cartref a rhyngwladol. Yn uchel ar yr agenda mae ceisio lleihau'r tariffau ar fewnforion dur o Brydain i'r Unol Daleithiau. Mae'n bosib hefyd y bydd Starmer yn awyddus i roi pwysau ar Trump i osod mwy o sancsiynau ar Rwsia.
Bydd mesurau diogelwch llym yn eu lle a fydd yn cael eu hadolygu yn gyson, yn enwedig wedi marwolaeth Charlie Kirk yn America wythnos ddiwethaf.
Llun: Jordan Pettitt/PA Wire