Ynys Môn: Arestio dynes wedi adroddiadau am berson â bwyell
Mae’r heddlu wedi arestio dynes leol ar amheuaeth o fod ag arf ymosodol yn ei meddiant ar ôl adroddiadau yn ymwneud â pherson gyda bwyell yn ardal Caergybi.
Fe wnaeth dwy ysgol ar Ynys Môn gloi eu drysau am gyfnod ddydd Llun o ganlyniad i’r adroddiadau.
Cafodd Ysgol Morswyn ac Ysgol Kingsland eu cloi ar gais Heddlu Gogledd Cymru, a hynny yn dilyn “pryder penodol yn yr ardal leol”.
Mae’r ysgolion bellach wedi ail-agor ac wedi dychwelyd “i’w diwrnod arferol,” medd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ynys Môn.
Roedd Heddlu’r Gogledd wedi rhoi gwybod iddynt ei fod yn ddiogel i ail-agor y safleoedd, meddai’r datganiad.
Dywedodd Heddlu’r Gogledd am 16.30 bod dynes leol yn ei 20au wedi cael ei harestio ar amheuaeth o fod hefo arf ymosodol yn ei meddiant.
“Da ni’n sylweddoli faint o bryder mae hyn wedi’i achosi, a buasem yn hoffi tawelu meddwl y gymuned fod swyddogion yn parhau ar batrôl troed yn yr ardal leol,” medden nhw.
“Gan fod ymchwiliad byw yn parhau, buasem yn gofyn i’r cyhoedd beidio dyfalu amgylchiadau’r digwyddiad.”
‘Diogel’
Roedd yr heddlu wedi dweud brynhawn ddydd Llun eu bod nhw wedi cael gwybod am adroddiadau yn ymwneud â pherson gyda bwyell yn ardal Kingsland, Caergybi y bore hwnnw.
Cafodd Ysgol Morswyn ac Ysgol Kingsland eu cau am “gyfnod byr iawn” yn sgil yr adroddiadau.
“Roedd y mesurau yn eu lle am gyfnod byr iawn ac fe agorodd y ddwy ysgol, gan fynd yn ôl i’r diwrnod arferol, unwaith yr oedd Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau ei bod hi’n ddiogel i wneud hynny," meddai llefarydd ar ran y cyngor.
“Drwy gydol y cyfnod hwn, dilynodd yr ysgolion y canllawiau a’r gweithdrefnau perthnasol. Bu i’r staff weithredu mewn modd cyflym a phriodol wrth i ddiogelwch disgyblion a staff barhau’n flaenoriaeth drwy gydol yr amser."
Dywedodd yr Arolygydd lleol Wayne Francis bod presenoldeb yr heddlu yn parhau er mwyn “tawelu meddyliau” trigolion.
“Hoffwn bwysleisio nad oes unrhyw adroddiadau yn ymwneud â bygwth aelodau’r cyhoedd wedi’u gwneud i ni,” meddai.
Ychwanegodd bod ymchwiliadau’r heddlu yn parhau a gallai unigolion sydd ag unrhyw wybodaeth gysylltu â’r llu drwy ddyfynnu cyfeirnod C144229.