Dedfrydu cwpl i o leiaf 14 o flynyddoedd am ladd eu babi newydd-anedig
Mae'r cwpl Constance Marten a Mark Gordon wedi eu dedfrydu i o leiaf 14 o flynyddoedd yr un yn y carchar am ladd eu babi newydd-anedig.
Wrth eu dedfrydu yn llys yr Old Bailey dywedodd yr Ustus Lucraft eu bod nhw wedi lladd y plentyn “drwy esgelustod amlwg”.
Doedd yr un ohonyn nhw wedi dangos edifeirwch am yr hyn ddigwyddodd, meddai.
"Yn fy marn i...roedd eich babi wedi'i amlygu i straen sylweddol oherwydd oerfel,” meddai.
"Rwy'n cynnig dedfrydu ar sail marwolaeth oherwydd hypothermia."
Aeth Marten, 38 oed a Gordon, 51 oed, ar ffo gyda'u merch fach Victoria yn 2023 ar ôl i'w pedwar plentyn arall gael eu rhoi mewn gofal.
Bu'r heddlu yn ceisio chwilio amdanyn nhw ar ôl i'w car fynd ar dân ar draffordd ger Bolton, yng ngogledd Lloegr.
Teithiodd y ddau ar hyd a lled Lloegr, cyn cysgu mewn pabell yn y South Downs yn ne ddwyrain Lloegr, lle bu farw eu babi Victoria.
Ar ôl bod ar ffo am saith wythnos, cafodd Constance Marten a Mark Gordon eu harestio yn Brighton, Dwyrain Sussex.
Wedi chwilio mawr amdani, daeth yr heddlu o hyd i gorff Victoria, yng nghanol sbwriel mewn bag archfarchnad, mewn sied gerllaw.
Doedd hi ddim yn bosibl darganfod sut yn union y bu hi farw, oherwydd cyflwr ei chorff.
Yn ôl yr erlyniad, mae'n bosibl iddi farw o hypothermia, oherwydd yr oerfel ac amodau llaith yn y babell, neu fe gafodd ei mygu.
Roedd Marten a Gordon wedi dadlau mai damwain drasig oedd marwolaeth eu merch, ar ôl i Marten syrthio i gysgu arni.
Ond yn yr ail achos yn eu herbyn yms mis Gorffennaf, dyfarnodd y rheithgor yn unfrydol eu bod yn euog o ddynladdiad.
Ar ôl yr achos llys daeth i’r amlwg bod Gordon hefyd wedi ei ddyfarnu'n euog yn 2017 o ymosod ar ddwy blismones mewn uned famolaeth yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin.