‘Anochel’ y bydd Starmer ‘yn mynd’ os bydd canlyniad etholiadau 2026 yn wael i Lafur
Mae’r Prif Weinidog yn wynebu cael ei orfodi i "fynd" os yw canlyniadau etholiadau gwanwyn 2026 cynddrwg i’w blaid ag y mae’r arolygon barn yn ei awgrymu, yn ôl cyn aelod o feinciau blaen Llafur.
Mae'r blaid yn wynebu etholiadau heriol yn Senedd Cymru, Senedd yr Alban a chynghorau Llundain ar 6 Mai y flwyddyn nesaf.
Mae arolygon barn yn awgrymu darlun cymysg gyda rhai arolygon yn rhoi y Blaid Lafur yn y trydydd safle yng Nghymru ar hyn o bryd, y tu ôl i Blaid Cymru a Reform UK.
Dywedodd yr AS Llafur Richard Burgon ei fod yn ofni y bydd yr etholiadau yn “drychineb llwyr” i’w blaid.
“Rwy’n credu ei bod yn anochel, os aiff etholiadau mis Mai fel y mae pobl yn ei ragweld, a’r arolygon barn yn ei ragweld, yna rwy’n credu y bydd Starmer yn mynd bryd hynny,” meddai wrth raglen Today ar BBC Radio 4.
“Mae’n teimlo fel ein bod ni flynyddoedd lawer i mewn i lywodraeth amhoblogaidd, yn hytrach na blwyddyn i mewn i lywodraeth sydd newydd ddisodli'r Ceidwadwyr.
“Rydyn ni’n colli pleidleisiau i’r chwith ac yn colli seddi i’r dde.”
Ond dywedodd y Farwnes Jacqui Smith wrth BBC Breakfast ei bod hi’n cefnogi Syr Keir Starmer.
“Nid yw Richard Burgon erioed wedi cefnogi’r Prif Weinidog,” meddai.
“Mewn gwirionedd, cafodd y chwip ei dynnu oddi arno am gyfnod oherwydd ei fethiant i gefnogi’r Llywodraeth.
“Felly nid yw’r ffaith ei fod bellach yn dweud y dylai’r Prif Weinidog fynd yn ddim byd newydd mewn gwirionedd.”