Ymchwiliad Southport: Mam plentyn fu farw yn galw am atebion

Rhieni Southport

Mae mam plentyn saith oed a fu farw mewn ymosodiad yn Southport wedi dweud wrth ymgynghoriad cyhoeddus ei bod "angen deall sut y digwyddodd hyn.”

Fe wnaeth Axel Rudakubana lofruddio Alice da Silva Aguiar oedd yn naw oed, Bebe King, chwech oed, a Elsie Dot Stancombe oedd yn saith oed mewn dosbarth dawns yn y dref ar 29 Gorffennaf y llynedd.

Carcharwyd Rudakubana am o leiaf 52 mlynedd ym mis Ionawr am lofruddiaethau'r tair a cheisio llofruddio wyth o blant eraill a dau oedolyn.

Wrth roi tystiolaeth i Ymchwiliad Southport yn Neuadd y Dref Lerpwl ddydd Llun, dywedodd Jenni Stancombe, 37 oed: “Dim ond i ddawnsio a gwneud breichledau yr aeth Elsie yno, ac ni chefais i erioed y cyfle i fynd â hi adref.

“Rydw i’n cerdded heibio gwely gwag bob nos, rwy’n syllu i mewn i’w hystafell gan weddïo y bydd yr hunllef hon yn dod i ben, ond nid yw byth yn dod i ben, rydyn ni’n ei fyw bob dydd.

“Rydyn ni’n rhieni da, yn union fel cynifer o rai eraill ledled y wlad ar y diwrnod hwnnw, oedd eisiau gwneud rhywbeth braf i’n merch fach ar ddechrau’r gwyliau.

“Fe wnaethon ni golli popeth y diwrnod hwnnw. Ac mae angen i mi ddeall sut y digwyddodd hyn.”

Galwodd am ganolbwyntio ar atal unigolion sydd â’r bwriad o achosi niwed rhag cyrraedd y pwynt lle’r oedden nhw’n gallu cyflawni gweithredoedd o’r fath.

Ychwanegodd: “Byddwn yn ymladd dros gyfiawnder, dros newid, i gadw ein plant yn ddiogel, mae angen gwneud newidiadau i atal hyn rhag digwydd eto byth.

“Ni ddylai hyn byth fod wedi digwydd mewn cymdeithas ddiogel a chyfiawn, ni all hyn ddigwydd, ni ddylai unrhyw riant arall deimlo’r yr un boen.”

Image
Teulu Elsie Dot
Teulu Elsie

'Ddim eisiau credu'

Dywedodd Ms Stancombe, a oedd yn eistedd ochr yn ochr â'i gŵr David, 37 oed, wrth yr ymchwiliad fod eu byd wedi "chwalu" pan dderbyniodd alwad ffôn yn dweud wrthyn nhw fod rhywun wedi trywanu'r merched yn y dosbarth dawns.

Dywedodd eu bod nhw wedi rhedeg i'r car a gyrru i'r stiwdio, ar Stryd Hart yn y dref.

"Roeddwn i'n gweiddi enw Elsie," meddai.

"Cyrhaeddodd David a fi ddrws ffrynt Hart Space, lle cododd dau swyddog heddlu David oddi ar ei draed a'i gario yn ôl wrth iddo ymladd i fynd i mewn."

Dywedodd ei bod wedi chwilio am ei merch ymysg y merched oedd wedi eu hanafu.

"Cerddodd swyddog heddlu heibio i mi a dweud wrth David fod rhywun a oedd yn cyfateb i ddisgrifiad o Elsie yn dal i fod y tu mewn i'r adeilad ac nad oedd wedi goroesi.

"Penliniodd David o'm blaen a dim ond edrych arnaf. Doeddwn i ddim yn eu credu. Doeddwn i ddim eisiau eu credu. 

“Fe wnes i fynnu eu bod nhw wedi gwneud camgymeriad a bod angen iddyn nhw ddod o hyd iddi.

“Rwy’n gwybod nawr nad oedd Elsie byth wedi gadael yr adeilad. Yr holl amser roeddwn i yno, roeddwn i’n meddwl ei bod hi’n derbyn cymorth, ond doedd dim modd helpu Elsie.

“Dinistriwyd y bywyd yr oedden ni wedi gweithio mor galed i’w adeiladu ar gyfer ein merched yn y foment honno.”

Llun: Rhieni Elsie Dot Stancombe, Jenni (chwith) a David (dde) gyda rhieni Bebe King, Lauren a Ben (canol), yn cyrraedd Neuadd y Dref, Lerpwl.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.