
‘Parc Cenedlaethol Glyndŵr’: Agor ymgynghoriad ar ffiniau newydd
Mae ymgynghoriad 12 wythnos wedi dechrau ar gynlluniau i greu Parc Cenedlaethol newydd a fyddai yn ymestyn ar draws gogledd-ddwyrain Cymru a Phowys.
Fe fyddai ‘Parc Cenedlaethol Glyndŵr’ yn ymestyn o Brestatyn ar yr arfordir, ar draws Sir Ddinbych, trwy Sir y Fflint, Wrecsam ac i lawr i ogledd Powys.
Mae rhan fawr o’r parc cenedlaethol newydd o fewn Powys wedi ei ddileu ers yr ymgynghoriad diwethaf.
“Mae'r ffin wedi'i mireinio i ddal ardal gydlynol o harddwch naturiol yn well gan ganolbwyntio ar yr ucheldiroedd, y dyffrynnoedd sy'n croestorri a'r ymyl arfordirol,” meddai Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae modd ymateb i’r ymgynghoriad fan hyn.

Mae CNC wedi bod yn gwerthuso’r achos dros Barc Cenedlaethol newydd dros y ddwy flynedd diwethaf, medden nhw.
Fe wnaeth y bwrdd benderfynu ar 16 Gorffennaf 2025 i fwrw ymlaen ag Ymgynghoriad Statudol ar y cynnig.
Roedd ymarfer ymgysylltu cyhoeddus cychwynnol yn 2023 wedi canfod fod 51% o'r rhai a holwyd o blaid parc newydd, gyda 42% yn erbyn.
Yr enw Glyndŵr oedd yr opsiwn mwyaf poblogaidd yn yr ymgynghoriad cyhoeddus a ddilynodd yn 2024.