Y Ceidwadwyr yn mynnu atebion am berthynas Mandelson ac Epstein

Mandelson/Starmer/PA

Mae'r blaid Geidwadol wedi ysgrifennu at Keir Starmer yn mynnu atebion ynglŷn â faint oedd Downing Street yn gwybod am gysylltiadau'r Arglwydd Mandelson a'r pedoffeil Jeffrey Epstein.

Maent hefyd wedi gofyn i'r Prif Weinidog i ryddhau dogfennau yn ymwneud gyda phenodiad Mandelson fel llysgennad i'r Unol Daleithiau.

Cafodd Mandelson ei ddiswyddo wythnos diwethaf ar ôl i gyfres o e-byst gael eu cyhoeddi oedd yn dangos cefnogaeth tuag at Epstein ar ôl iddo bledio yn euog i droseddau rhyw.

Mae'r BBC yn dweud fod Starmer wedi holi Mandelson am ei gysylltiad gyda'r pedoffilydd cyn penderfynu ei benodi fel llysgennad. 

Yn ôl yr AS Ceidwadol Alex Burghart, sef awdur y llythyr, mae'r sgandal wedi "amlygu crebwyll ofnadwy" y Prif Weinidog.

Mae'r llythyr yn dweud fod Starmer wedi "anwybyddu rhybuddio am berthynas Peter Mandelson a Jeffrey Epstein" a'i fod yn "osgoi craffu ar yr hyn roedd yn gwybod".

Mae Downing Street wedi mynnu bod y Prif Weinidog mond wedi gwybod am gynnwys yr e-byst nos Fercher a'i fod wedi rhoi'r sac i Mandelson yn fuan wedi hynny.

Mae Peter Mandelson wedi dweud sawl gwaith ei fod yn difaru ei berthynas gyda Epstein. Fe fuodd Jeffrey Epstein farw yn y carchar yn 2019. 

Llun: Carl Court/PA Wire

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.