Madeleine McCann: Yr un sy'n cael ei amau yn gwrthod cael ei gyfweld
Mae'r prif berson sydd yn cael ei amau mewn cysylltiad â diflaniad Madeleine McCann wedi gwrthod cael ei holi gan dditectifs Heddlu'r Met.
Yn ôl y llu fe wnaethon nhw anfon llythyr yn gofyn i Christian Brückner ddod i gael cyfweliad ac mae wedi gwrthod.
Mae disgwyl i'r Almaenwr 49 oed gael ei rhyddhau wythnos yma o'r carchar am droseddau eraill.
Dyw Brückner erioed wedi cael ei gyhuddo o unrhyw drosedd mewn cysylltiad â diflaniad Madeleine McCann ac mae'n gwadu unrhyw gysylltiad.
Fe ddiflannodd Madeleine McCann o dref Praia da Luz ym Mhortiwgal tra ar ei gwyliau yno gyda'i theulu yn 2007.
Roedd y ferch dair oed yn cysgu mewn ystafell gyda'i brawd a'i chwaer fach tra bod eu rhieni, Kate a Gerry, wedi mynd i gael swper mewn bwyty gerllaw.
Yn ystod y noson roedden nhw wedi bod yn mynd yn ôl i'r ystafell i gadw golwg ar eu plant tan i Kate ddarganfod bod Madeleine ar goll tua 22:00.
Mae Heddlu'r Met wedi dweud fod Brückner yn parhau i fod y prif berson sydd yn cael ei amau yn eu hymchwiliad nhw i ddiflaniad Madeleine.
Dywedodd y Prif Arolygydd Mark Cranwell ei bod hi mond yn bosib gwneud cais am gyfweliad gyda Brückner am resymau cyfreithiol trwy Lythyr Cais Rhyngwladol. Mae'r llu wedi anfon y llythyr hwnnw.
"Cafodd y cais ar ôl hynny ei wrthod gan y person dan amheuaeth. Am na fydd yna gyfweliad fe fyddwn ni yn parhau i fwrw ymlaen gydag unrhyw ymholiadau perthnasol."
"Allwn ni ddim darparu mwy o wybodaeth tra bod yr ymchwiliad yn parhau."