Rhybuddion mewn lle wrth i wyntoedd cryfion daro'r wlad
Mae cyfyngiadau teithio a phedwar rhybudd o lifogydd posib mewn grym yng Nghymru yn sgil tywydd garw ar hyn o bryd.
Mae'r rhybudd melyn gan y Swyddfa Dywydd am wyntoedd cryfion yn ei le ar gyfer Cymru gyfan, ac mae cyfyngiadau teithio mewn rhai llefydd.
Fe ddechreuodd y rhybudd am 20:00 nos Sul, ac fe fydd yn parhau mewn lle hyd nes 18:00 ddydd Llun.
Mae'r rhybuddion llifogydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn bodoli yn Nalgylch Conwy, Dalgylch Dyfi, Ewenni a Gorllewin Bro Morgannwg a Nant-y-fendrod a Nant Brân. Maent i gyd yn rhybuddio 'Byddwch yn barod'.
Roedd rhybudd am wyntoedd cryfion ar Pont Britannia ben bore gyda'r cyflymder wedi ei ostwng i 30mya.
Mae coed wedi cwympo ar yr A470 yn Aberangell yng Ngwynedd ac A487 yn Nhaliesin yng Ngheredigion, meddai Traffig Cymru.
Roedd rhai adroddiadau am doriadau trydan gwasgaredig ar draws y gogledd a'r de.
Dywedodd Sw Mynydd Bae Colwyn eu bod nhw'n bwriadu cau ddydd Llun oherwydd y tywydd garw.
Gwasgedd aer isel sydd fwyaf gyfrifol am y gwyntoedd cryfion, sydd hefyd wedi golygu cyfyngiadau teithio rhwng Ynys Môn a'r tir mawr.
Fe allai'r gwyntoedd fod rhwng 50 a 60 milltir yr awr ar yr arfordir ac ar dir uchel gyda hyrddiadau rhwng 70 ac 80 milltir yr awr yn bosib mewn mannau agored.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd mae'n bosib y bydd oedi i drenau, bysiau, ffyrdd, llongau ac awyrennau.
Fe allai rhai ardaloedd golli trydan hefyd am gyfnod.