Dŵr Cymru i ddiswyddo 500 o weithwyr

Dŵr Cymru

Mae Dŵr Cymru wedi cyhoeddi eu cynllun sy'n bwriadu diswyddo 500 o weithwyr dros y 18-24 mis nesaf.

Dywed y cwmni mai'r bwriad yw "diogelu gwasanaethau hanfodol, cryfhau gwytnwch gwasanaethau, lleihau costau ‘swyddfa gefn’ a sicrhau gwell gwerth am arian". 

Bydd gostyngiad o 12% yng nghyfanswm y gweithlu o 4,000 ar ddiwedd y cyfnod meddai'r cwmni.

Daw'r newyddion wedi i filoedd o bobl mewn trefi a phentrefi yn y gogledd ddwyrain fod heb ddŵr am sawl diwrnod ar ddiwedd mis Awst.

Dywedodd Huw Irranca-Davies, y Dirprwy Brif Weinidog ddydd Mercher bod rhaid "dysgu gwersi" o'r digwyddiad hwnnw.

Ym mis Mai fe gafodd y cwmni ddirwy o £1.35 miliwn ar ôl pledio’n euog i dros 800 achos yn ymwneud â thorri trwyddedau amgylcheddol wrth ollwng carthion i afonydd. 

Roedd y cwmni, sy'n gweithredu fel "cwmni nid er elw" wedi pledio'n euog i 15 o gyhuddiadau yn ymwneud ag 800 o droseddau yn 2020 a 2021. 

'Cyfnod ansicr'

Wrth gyhoeddi'r toriadau i swyddi, dywedodd Pete Perry, Prif Weithredwr Dŵr Cymru: “Rwy’n llwyr gydnabod y bydd hi’n gyfnod ansicr i’r cydweithwyr o dan sylw. Dydyn ni ddim wedi cyflawni newidiadau ar y raddfa hon ers dros ddegawd, a byddwn ni’n ymdrin â’r broses â gofal, trugaredd a thegwch. 

"Lle bynnag y bo modd, byddwn ni’n blaenoriaethu ymadawiadau gwirfoddol, ailhyfforddi, ac adleoli, a byddwn ni’n cydweithio’n agos â’n hundebau llafur ac yn darparu cefnogaeth lawn i bob cydweithiwr."

'Tâl o £892,000'

Wrth ymateb i'r newyddion am dorri 500 o swyddi dros y ddwy flynedd nesaf, dywedodd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds AS: “Mae gweithwyr bellach yn talu'r pris am fethiannau arweinyddiaeth systematig dros nifer o flynyddoedd yn Dŵr Cymru.

“Er bod Prif Swyddog Gweithredol Dŵr Cymru wedi derbyn tâl o £892,000 yn 2021 yn unig, roedd tîm arweinyddiaeth Dŵr Cymru yn gyfrifol am rai o'r lefelau uchaf o ddympio carthion yn y DU gyfan, lefelau eithriadol o uchel o bibellau'n gollwng a dŵr yn cael ei wastraffu a biliau sy'n codi'n sydyn i gwsmeriaid Cymru.

“Rwy'n bryderus iawn ynghylch yr hyn y bydd y toriadau swyddi hyn yn ei olygu ar gyfer mynd i'r afael â'r holl faterion hyn. 

"Mae mor amlwg â'r dydd bod angen i ni ddod â'r gorllewin gwyllt yma, sef y diwydiant dŵr, i ben a chyflwyno rheoleiddio â dannedd go iawn i fynd i'r afael â'r materion hyn.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.