Ymchwilio i dri achos o ymosod mewn ysgol uwchradd yn Llandudno
Mae'r heddlu yn ymchwilio i dri achos o ymosodiad honedig mewn ysgol uwchradd yn Sir Conwy.
Dywedodd yr heddlu bod yr ymchwiliad yn ymwneud â digwyddiad yn Ysgol John Bright yn Llandudno ddydd Mercher.
Fe gafodd yr ysgol ar Heol Maesdu yng nghanol y dref ei chloi i lawr am gyfnod byr oherwydd y digwyddiad.
Cafodd bachgen 13 oed ei gyfweld gan swyddogion fore Iau.
Mae bellach wedi ei ryddhau dan ymchwiliad tra bod ymholiadau'n parhau.
Dywedodd yr Arolygydd Mathew Kelly-Smith: "Yn dilyn adroddiadau am aflonyddwch yn Ysgol John Bright ddoe, fe aeth swyddogion yno a siarad â staff.
"Mae bachgen 13 oed wedi cael ei gyfweld ers hynny mewn cysylltiad â'r troseddau ac wedi'i ryddhau tra bod ymholiadau pellach yn cael eu cynnal."
Ychwanegodd: "Hoffwn roi sicrwydd i rieni a thrigolion lleol mai digwyddiad ynysig oedd hon, nad oedd yn peri unrhyw risg ehangach i'r cyhoedd."