Rhodd gan Syr Dave Brailsford yn sicrhau dyfodol i ganolfan ym mro ei febyd

Dave Brailsford

Mae ymgyrch i sicrhau dyfodol hen lyfrgell a chlwb snwcer yng Ngwynedd wedi derbyn hwb sylweddol ar ôl derbyn rhodd ariannol gan Syr Dave Brailsford.

Mae'r rhodd o £10,000 gan un o gewri'r byd seiclo, a gafodd ei fagu ym mhentref Deiniolen, yn sicrhau bod modd i drefnwyr yr ymgyrch allu prynu hen lyfrgell y pentref er mwyn sicrhau ei dyfodol. 

Roedd angen codi £20,000 erbyn 15 Medi, ond gyda'r nawdd sydd wedi dod i law mae'r targed hwnnw bellach wedi ei gyrraedd.

Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd y trefnwyr: "Does dim geiriau all gyfleu ein gwerthfawrogiad a'n boddhad o allu datgan ein bod wedi codi digon o arian i allu prynu hen lyfrgell Deiniolen. 

"Roeddem yn bryderus na fyddem wedi gallu cyrraedd y targed. 

"Roedd Sir Dave Brailsford CBE yn eithriadol o falch o allu ein helpu a dyma ddatganiad mae o wedi ei rannu efo ni: 'Mae gen i atgofion hapus o redeg allan o'r Ysgol ar ddiwedd diwrnod a chroesi'r lôn i'r Clwb Snwcer i drio cael y gêm ola' cyn i'r Clwb gau am y prynhawn. Dymunaf yn dda i'r pentref yn eu cais i brynu'r hen lyfrgell."

Ychwanegodd trefnwyr yr ymgyrch eu bod yn "diolch o waelod calon iddo am ei gyfraniad sylweddol at ein hachos." 

"Mae hyn yn dangos cymaint mae Deiniolen yn olygu iddo ac er ei fod wedi bod o amgylch y byd a chymysgu gyda mawrion y byd chwaraeon, tydy o heb anghofio ei wreiddiau."

Ychwanegodd y trefnwyr bod angen rhagor o arian ar gyfer costau pryniant ac yswiriant, a'u bod am adael yr ymgyrch ar agor i roi cyfle i bawb sydd eisiau cyfrannu i allu gwneud hynny. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.