Arweinydd Cyngor Caerffili yn ymddiswyddo
Mae arweinydd Cyngor Caerffili wedi cyhoeddi ei fod yn ymddiswyddo ar unwaith.
Mae'r Cynghorydd Sean Morgan wedi arwain y cyngor ers mis Mai 2022.
Mewn datganiad, dywedodd: "Rwy'n falch o'r cyflawniadau a'r gwelliannau rydym wedi'u cyflawni gyda'n gilydd.
"Fodd bynnag, rwy'n credu nad yw fy safle moesol yn caniatáu i mi fod yn gysylltiedig â'r Blaid Lafur ddim mwy.
"Felly, rwyf wedi gwneud y penderfyniad anodd i gamu i lawr."
Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Caerffili, Richard Edmunds: "Hoffwn ddiolch i Sean am ei waith caled, ei ymroddiad a'i ymrwymiad i wella bywydau pawb ar draws ein cymunedau dros y tair blynedd diwethaf.
"Rwyf wedi gwerthfawrogi a mwynhau gweithio gyda Sean yn fawr yn ystod y cyfnod hwn ac rwy'n ddiolchgar am yr holl gefnogaeth y mae wedi'i roi i mi ers i mi ddod yn brif weithredwr. Rwy'n dymuno'r gorau iddo ar gyfer y dyfodol."
Dywedodd llefarydd ar ran y blaid Lafur: "Gallwn gadarnhau nad yw'r Cynghorydd Sean Morgan bellach yn aelod o'r Blaid Lafur. Mae wedi rhoi ei resymau.
"Mae ei gyn-gydweithwyr ar y cyngor, a ninnau fel plaid, yn canolbwyntio ar gyflawni dros bobl Caerffili."
Bydd y Cynghorydd Morgan yn parhau fel cynghorydd annibynnol ar gyfer ward Nelson tan etholiadau 2027.