Keir Starmer yn diswyddo’r Arglwydd Peter Mandelson fel llysgennad i'r UDA
Mae Syr Keir Starmer wedi diswyddo’r Arglwydd Peter Mandelson fel llysgennad Prydain i’r Unol Daleithiau wedi beirniadaeth chwyrn am ei gyfeillgarwch â’r pedoffeil Jeffrey Epstein.
Ddydd Mercher, ceisiodd y Prif Weinidog amddiffyn yr Arglwydd Mandelson ar ôl iddo ddod i’r amlwg ei fod wedi ysgrifennu nodyn pen-blwydd at Epstein yn 2003 lle disgrifiodd y troseddwr rhyw fel ei “gyfaill gorau”.
Wrth siarad yng Nghwestiynau’r Prif Weinidog, dywedodd Syr Keir fod ganddo “hyder” yn yr Arglwydd Mandelson o hyd a bod “y broses briodol wedi’i dilyn” yn ystod ei benodiad.
Ond ddiwedd bore dydd Iau fe ddaeth y newyddion fod Syr Keir wedi diswyddo Mr Mandelson o'r rôl yn Washington.
Mewn datganiad, dywedodd y Swyddfa Dramor: "Yng ngoleuni'r wybodaeth ychwanegol mewn negeseuon e-bost a ysgrifennwyd gan Peter Mandelson, mae'r Prif Weinidog wedi gofyn i'r Ysgrifennydd Tramor ei dynnu'n ôl fel Llysgennad.
"Mae'r negeseuon e-bost yn dangos bod dyfnder a graddfa perthynas Peter Mandelson â Jeffrey Epstein yn sylweddol wahanol i'r hyn a oedd yn hysbys ar adeg ei benodiad.
"Yn benodol, mae awgrym Peter Mandelson bod euogfarn gyntaf Jeffrey Epstein yn anghywir a dylid ei herio yn wybodaeth newydd. Yng ngoleuni hynny, ac yn ystyriol o ddioddefwyr troseddau Epstein, mae wedi cael ei dynnu'n ôl fel Llysgennad ar unwaith."
Negeseuon
Cyhoeddodd The Sun a Bloomberg negeseuon e-bost lle dywedodd yr Arglwydd Mandelson wrth Epstein ei fod yn “eich dilyn yn agos ac yma pryd bynnag y bydd angen arnoch”.
Dywedodd hefyd wrth Epstein am “ymladd dros gael ei ryddhau’n gynnar” ychydig cyn iddo gael ei ddedfrydu i 18 mis yn y carchar, gan ddweud wrtho, “Rwy’n meddwl y byd ohonoch chi” y diwrnod cyn i Epstein ddechrau ar ei ddedfryd.
Fe wnaeth adroddiadau am yr e-byst rhwng yr Arglwydd Mandelson ac Epstein ysgogi galwadau i ddiswyddo’r llysgennad gan wleidyddion Ceidwadol a Llafur.
Disgrifiodd arweinydd y Torïaid, Kemi Badenoch, y negeseuon fel rhai “ffiaidd” a dywedodd fod sefyllaf yr Arglwydd Mandelson yn “anghynaladwy”.
Wrth ofyn pam roedd Syr Keir wedi parhau i’w amddiffyn yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd Mrs Badenoch: “Mae hwn yn Brif Weinidog gwan, yn arwain Llywodraeth sydd wedi’i llethu gan sgandal. Mae’r cyhoedd yn haeddu gwell."
Ymunodd yr aelodau meinciau cefn Llafur, Richard Burgon a Nadia Whittome yn y galwadau am ddiswyddo’r Arglwydd Mandelson “ar unwaith” cyn cyhoeddiad y Swyddfa Dramor ddydd Iau.
Dywedodd y ddau na ddylai’r arglwydd erioed fod wedi cael ei benodi i’r rôl, tra ychwanegodd Ms Whittome: “Rydym naill ai’n sefyll gyda’r dioddefwyr neu nid ydym.”
'Cywilyddus'
Disgrifiodd yr Arglwydd Mandelson y geiriau a ddefnyddiodd yn ei neges pen-blwydd i Epstein fel rhai “cywilyddus iawn i’w gweld a’u darllen”.
Dywedodd y gyfreithwraig o’r Unol Daleithiau Gloria Allred, sy’n cynrychioli mwy nag 20 o oroeswyr troseddau Epstein y dylai’r Arglwydd Mandelson gynnig yn wirfoddol i gael ei holi gan gyfreithwyr.
Mewn cyfweliad â Times Radio, dywedodd Ms Allred: “Os yw am fod o ddifrif am hyn, os yw am helpu’r goroeswyr, dylai ganiatáu iddo’i hun gael ei holi. Os nad oes ganddo ddim i boeni amdano, pam lai?
“Beth all ei wneud i helpu’r goroeswyr? A yw’n fodlon gwneud hyn? Os na, dylai ymddiswyddo. Gweithredoedd, nid geiriau, sy’n bwysig.”
Llun: PA