'Syfrdanol': Angen cymorth iechyd meddwl ar 'un o bob tri o bobl 16 i 25 oed'

Iechyd meddwl pobl ifanc

Fe fydd angen cymorth iechyd meddwl ar tua un o bob tri oedolyn ifanc ym Mhrydain yn y flwyddyn nesaf, yn ôl arolwg.

Roedd bron i ddwy ran o dair o bobl 16 i 25 oed hefyd wedi nodi problemau gyda'u hiechyd meddwl, naill ai ar hyn o bryd neu yn y gorffennol.

Mae arbenigwyr yn dweud fod hyn yn awgrymu ymwybyddiaeth gynyddol o broblemau iechyd meddwl, ond bod angen mwy o ymchwil er mwyn atal problemau.

Cafodd yr arolwg barn YouGov ei wneud ar gyfer prifysgol UCL Llundain.

1,545 oedd y sampl ac oed y bobl oedd rhwng 16 a 25 oed.

Fe wnaeth yr arolwg ddarganfod fod 64% o oedolion ifanc wedi profi problemau iechyd meddwl.

Roedd hyn ar ei uchaf ymhlith pobl 20 a 21 oed, gyda phedwar o bob 10 yn nodi problemau cyfredol a 31% yn dweud eu bod wedi cael problemau yn y gorffennol.

Fe ddywedodd tua 32% eu bod yn disgwyl y bydd angen cymorth arnynt yn y flwyddyn nesaf.

Yn ôl yr Athro Essi Viding, o UCL, gallai'r canfyddiadau "adlewyrchu ymwybyddiaeth gynyddol a bod pobl yn adnabod problemau iechyd meddwl yn well".

"Mae angen mwy o ymchwil arnom i ddeall sut y gallwn atal problemau iechyd meddwl rhag dod i'r amlwg a sut y gallwn gefnogi'r rhai sydd â'r anghenion mwyaf difrifol i gael mynediad at gymorth cyflym ac effeithiol sy'n seiliedig ar dystiolaeth."

Ychwanegodd yr Athro Viding mai pwysau ysgol, coleg neu brifysgol a phwysau ariannol oedd y materion mwyaf cyffredin oedd yn effeithio’n negyddol ar iechyd meddwl.

Fodd bynnag, roedd y rhai nad oeddent mewn gwaith nac addysg yn fwy tebygol o roi gwybod am broblemau iechyd meddwl.

Pwysau arholiadau

Dywedodd Olly Parker, o elusen YoungMinds: “Mae’r ymchwil yn tanlinellu’n ymhellach raddfa syfrdanol yr argyfwng iechyd meddwl sy’n wynebu pobl ifanc.

“Mae’n adlewyrchu ein hymchwil sy’n nodi’r ysgol fel un ffactor sy’n cyfrannu at iechyd meddwl gwael.

“Rydym yn gwybod o’n canfyddiadau ein hunain y niwed y mae pwysau arholiadau yn ei achosi, gyda phobl ifanc yn cael meddyliau am hunanladdiad ac yn hunan-niweidio oherwydd eu bod yn cael trafferth ymdopi.”

Ychwanegodd fod “angen gweithredu brys i wrthdroi’r dirywiad yn iechyd meddwl pobl ifanc”, a dim ond gyda “diwygiadau mawr” i fynd i’r afael â’r achosion sylfaenol y gall hynny ddigwydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.