Cyn-bencampwr bocsio’r byd Ricky Hatton wedi marw yn 46 oed

Ricky Hatton

Mae cyn-bencampwr bocsio'r byd, Ricky Hatton, wedi cael ei ddarganfod yn farw yn ei gartref ym Manceinion.

Roedd Hatton, gafodd ei eni yn Stockport, yn 46 oed.

Mae cordon heddlu tu allan i’w gartref yn Gee Cross, Hyde.

Mae Heddlu Manceinion wedi cadarnhau bod corff wedi'i ddarganfod a dywedodd y llu nad yw'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.

Daw hyn fisoedd ar ôl i'r bocsiwr gyhoeddi ei fod yn dychwelyd i focsio gyda gornest wedi'i chynllunio ym mis Rhagfyr.

Roedd Hatton, a fyddai wedi troi'n 47 ym mis Hydref, wedi siarad yn agored am ei frwydrau gydag iechyd meddwl a dibyniaeth ar gyffuriau.

Yn ystod ei yrfa bocsio, daliodd nifer o bencampwriaethau byd, yn ogystal â theitlau'r DU, a gafodd ei enwi'n Ymladdwr y Flwyddyn yn 2015.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Manceinion: "Gallwn gadarnhau ein bod wedi dod o hyd i gorff mewn cyfeiriad ar Bowlacre Road yn Gee Cross am 06.45 heddiw, dydd Sul, Medi 14.

"Nid yw'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus."

Mae nifer o fawrion y byd bocsio wedi rhoi teyrngedau i Hatton.

Dywedodd cyn-bencampwr pwysau trwm y byd Tyson Fury: “Cwsg mewn hedd i’r enwog Ricky Hatton. Dim ond 1 Ricky Hatton fydd. Methu credu hyn, mor ifanc.”

Dywedodd Amir Khan: “Heddiw fe gollon ni nid yn unig un o focswyr gorau Prydain, ond ffrind, mentor, ac ymladdwr.

“Cwsg yn dda Ricky. Fe fydd gen ti le bob amser yng nghylch ein hatgofion.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.