Arestio dyn yn dilyn gwrthdrawiad ‘difrifol’ yng Ngheredigion

A482

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi arestio gyrrwr car yn dilyn gwrthdrawiad "difrifol" yng Ngheredigion brynhawn dydd Sadwrn.

Cafodd tri pherson oedd yn teithio mewn BMW gwyn eu hanafu’n ddifrifol yn dilyn gwrthdrawiad gyda lori ar ffordd yr A482 rhwng Ciliau Aeron ac Ystrad Aeron am tua 16:00 ddydd Sadwrn.

Dywedodd y llu fod gyrrwr y BMW ac un o’r teithwyr yn y car wedi eu cludo i’r ysbyty mewn hofrennydd. 

Aed â theithiwr arall oedd yn y car i’r ysbyty mewn ambiwlans.

Ni chafodd gyrrwr y lori unrhyw anafiadau.

Ychwanegodd y llu fod dyn 27 oed oedd yn gyrru’r BMW wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi anafiadau difrifol drwy yrru’n beryglus.

Mae e bellach wedi ei ryddhau o’r ysbyty ac mae'n cael ei gadw yn y ddalfa.

Ychwanegodd y llu fod y teithwyr gafodd ei gludo mewn hofrennydd i’r ysbyty yn dal mewn cyflwr critigol ond sefydlog.

Mae’r heddlu yn awyddus i glywed gan unrhyw un a oedd yn yr ardal ar y pryd neu sydd â thystiolaeth ar gamera.

Fe allai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda Heddlu Dyfed-Powys gan nodi cyfeirnod 25*759628.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.