Galw am fwy o gefnogaeth i oroeswyr trais rhyw a cham-drin domestig yn y llys
Rhybudd: Mae'r erthygl ganlynol yn trafod trais rhyw a cham-drin domestig ac fe all beri gofid i rai.
Mae cwnselydd o Gaernarfon yn galw ar Lywodraeth y DU i roi mwy o gefnogaeth i oroeswyr trais rhyw a cham-drin domestig sy'n rhoi tystiolaeth yn y llys.
Dywedodd Kayley Roberts, 37, bod nifer o’i chleientiaid sydd wedi goroesi trais rhyw neu gam-drin domestig, ac wedi llwyddo i ddwyn achos troseddol, yn cwestiynu rhoi tystiolaeth yn y llys oherwydd pryder y byddan nhw'n cael eu hadnabod.
Yn ôl Ms Roberts, mae nifer yn teimlo'n "fregus" wrth rannu manylion personol yn y llys.
Mae hi bellach wedi lansio deiseb yn galw ar y Llywodraeth i ganiatáu gwrandawiadau preifat i oroeswyr mewn achosion troseddol.
Byddai hyn yn golygu na fyddai’r wasg nag aelodau o'r cyhoedd yn cael mynd i'r achos llys.
Yn ôl elusen Cymorth i Ferched Cymru, nid yw gwrandawiadau preifat yn gyffredin iawn, ac yn aml nid yw goroeswyr yn cael gwybod am y mesurau arbennig sydd ar gael iddyn nhw, gan gynnwys rhoi tystiolaeth o du ôl i sgrin neu drwy gyswllt fideo.
Mae problemau cyfathrebu, oedi yn y llys, a diffyg arian yn gwaethygu'r problemau, meddai’r elusen.
Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder eu bod yn deall ei fod yn anodd i oroeswyr fynd drwy'r llys a'u bod yn "benderfynol" eu bod yn cael cefnogaeth.
Mae'r adran hefyd yn dweud eu bod wedi cyflwyno Gorchmynion Diogelu Cam-drin Domestig yng ngogledd Cymru i amddiffyn goroeswyr yn well.
'Syniad canoloesol'
Mae trais rhyw yn cynnwys unrhyw weithred rywiol ddigroeso, boed yn gorfforol neu’n anghorfforol, sy’n digwydd heb gydsyniad.
Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2022 yng Nghymru a Lloegr, roedd 86% o ddioddefwyr troseddau rhyw a gofnodwyd gan yr heddlu yn fenywod.
Mae goroeswyr troseddau rhyw yn y ddwy wlad yma yn cael aros yn ddi-enw am oes o’r foment y mae honiad yn cael ei wneud, sy'n golygu nad oes gan y wasg nag aelodau o'r cyhoedd yr hawl i gyhoeddi eu henwau nag unrhyw fanylion adnabod.
Er hynny, mae Ms Roberts yn dweud bod nifer o’i chleientiaid sy’n byw yn ardal Caernarfon yn pryderu y bydd pobl yn eu hadnabod.
"Hyd yn oed os dwyt ti ddim yn enwi rhywun, mae’r wybodaeth amdanyn nhw allan yna wedyn, ac mae’n wybodaeth andros o bersonol ac yn gallu gwneud iddyn nhw deimlo’n reit vulnerable,” meddai wrth Newyddion S4C.
"Dyla bo’ na’m byd yn rhwystro nhw rhag cael y cyfle i ddweud: dyna be’ sy’ wedi digwydd i fi, dyma be’ mae’r person yma wedi neud i fi."
Fel arfer mae achosion llys yn gyhoeddus yn y DU i sicrhau "cyfiawnder agored" a meithrin ymddiriedaeth y cyhoedd.
Ond mae Ms Roberts yn honni bod cael llys cyhoeddus ar gyfer achosion sensitif fel hyn yn "hen ffasiwn" bellach.
"Roedd pobl yn arfer cael gwatchad operations mewn awditoriwm, ond 'sa ni'm yn neud hynna rŵan, felly mae 'na wbath reit medieval amdano fo," meddai.
"Pwy fysa isho mynd i watchad a gwrando ar wbath fela? Dydi o ddim yn teimlo’n deg iawn. Mae o fatha rhywun arall yn cymryd pŵer dros stori rhywun arall."
Fe aeth y cwnselydd hunangyflogedig ymlaen i ddweud bod y system gyfreithiol yn "gadael dioddefwyr i lawr".
"Mae’r heddlu isho pobl riportio, ond i lot o bobl mae hwnna [achos llys cyhoeddus] yn stopio pobl," meddai.
"Lle mae’r stori yma’n mynd i fynd? Ydi o’n mynd i fod yn stori yn y papur newydd? Ydi o’n mynd i fod ar Facebook?
"Dydi o ddim yn gossip i rannu, mae o'n wybodaeth hynod o bersonol."
'Angen bod mwy ystyriol o drawma'
Yn ôl Stephanie Grimshaw, pennaeth materion cyhoeddus Cymorth i Ferched Cymru, dylai fod yn haws i oroeswyr roi tystiolaeth.
"Dydi goroeswyr ddim yn gwybod bod amddiffyniadau ar gael iddyn nhw, oherwydd dydyn nhw ddim yn cael y sgyrsiau hynny," meddai.
"Hyd yn oed pan fydd y goroeswr yn gwneud cais amdano, mae'n anodd iawn i'w gael mewn gwirionedd – ac mae'n broblem fawr.
"Mae system y llysoedd yn frawychus iawn i oroeswyr ac mae agwedd gwrthwynebol cyfreithwyr wrth fynd at dystion a phethau fel 'na yn parhau."
Ychwanegodd Ms Grimshaw bod angen i'r system gyfreithiol fod yn fwy ystyriol o drawma.
"Pe bai goroeswyr yn gwybod pa amddiffyniadau sydd ar gael, a phe bai'r amddiffyniadau yn hygyrch, efallai y byddai mwy yn dod ymlaen," meddai.
"Dw i'n falch iawn o weld y ddeiseb oherwydd os mai dyma sydd ei angen ar oroeswyr, yna mae angen i'r Llywodraeth dderbyn cyfrifoldeb a gwrando.
"Mae 'na angerdd gwirioneddol dros ddod â thrais yn erbyn menywod a merched i ben – neu ei haneru, fel mae'r Llywodraeth yn ei ddweud – ond mae 'na ormod o ffocws ar fwy o blismona, mwy o lysoedd a phethau fel ‘na.
"Dw i’n meddwl mai’r hyn sy’n mynd ar goll yn y sgwrs ydi dyw cefnogaeth i oroeswyr ddim mor awtomatig â’r System Cyfiawnder Troseddol.
"Rydym yn edrych ar bethau fel cefnogaeth i ddioddefwyr, cefnogaeth i wasanaethau cymdeithasol a’r math yna o gefnogaeth i oroeswyr sydd yn y llys."
Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder: "Rydym yn gwybod pa mor anodd y gall fod i ddioddefwyr trais domestig fynd drwy'r llysoedd ac rydym yn benderfynol eu bod yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw.
"Mae dioddefwyr yn yr achosion hyn yn gymwys yn awtomatig ar gyfer mesurau arbennig fel sgriniau a chysylltiadau byw fel y gallant roi tystiolaeth heb fod yng ngolwg uniongyrchol y diffynnydd."
Ychwanegodd: "Rydym hefyd yn ehangu llysoedd cam-drin domestig arbenigol, yn cryfhau monitro troseddwyr ac wedi cyflwyno Gorchmynion Diogelu Cam-drin Domestig yng ngogledd Cymru i amddiffyn dioddefwyr yn well."
Os ydych wedi cael eich heffeithio gan faterion sydd yn cael eu trafod yn yr erthygl hon, mae cymorth ar gael yma.