26 o swyddogion heddlu wedi eu hanafu mewn protestiadau yn Llundain
Cafodd 26 o swyddogion heddlu eu hanafu wrth i dros 100,000 o bobl fynychu protest yn Llundain ddydd Sadwrn.
Roedd y brotest Unite The Kingdom wedi ei threfnu gan yr ymgyrchydd asgell dde eithafol, Stephen Yaxley Lennon, neu Tommy Robinson, yn Whitehall.
Yn ôl Heddlu’r Met, fe wnaeth rhai swyddogion ddioddef ymosodiadau a chael eu targedu gan brotestwyr oedd yn taflu poteli.
Cafodd pedwar swyddog eu hanafu’n ddifrifol mewn “trais annerbyniol”, medden nhw.
Cafodd 25 o bobl eu harestio am wahanol droseddau, gyda’r heddlu yn amcangyfrif bod rhwng 110,000 a 150,000 wedi cymryd rhan yn y brotest.
Roedd llwyfan wedi ei adeiladu, gyda sawl person yn annerch y dorf gan gynnwys y biliwnydd, Elon Musk dros gyswllt fideo, a chyn-cynghorydd Donald Trump, Steve Bannon.
Roedd o gwmpas 5,000 o bobl hefyd yn rhan o gwrth-brotest o’r enw March Against Fascism, wedi ei threfnu gan Stand Up To Racism.
Ar un adeg, roedd protestwyr o’r naill ochr yn wynebu ei gilydd yn Whitehall, gyda gwrthrychau yn cael eu taflu gan rai oedd yn rhan o brotest Robinson.
Wrth gyfeirio at brotestwyr oedd wedi anafu swyddogion yr heddlu, dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol, Shabana Mahmood y byddai unrhyw un “oedd yn cymryd rhan mewn gweithgaredd troseddol yn wynebu holl rym y gyfraith".