
Sesiynau creadigol newydd i bobl ifanc sy'n profi galar ym Môn
Sesiynau creadigol newydd i bobl ifanc sy'n profi galar ym Môn
Fe fydd sesiynau newydd yn cael eu cynnal yn Llangefni ar Ynys Môn i bobl ifanc sy'n profi galar ac yn chwilio am ofod i sgwrsio a bod yn greadigol.
Bydd sesiynau 'Troedio Tonnau' yn dechrau ddydd Sul, ac yn cael eu cynnal ar ail ddydd Sul bob mis.
Manon Gwynant a Buddug Watcyn Roberts ydy sylfaenwyr y sesiynau, ac mae'r ddwy yn ymarferwyr creadigol llawrydd.
Fe ddaeth y syniad gan Manon yn wreiddiol wedi iddi hi brofi colled yn ei theulu.
"Nath y syniad ddod o brofiad yn y teulu, naethon ni golli aelod o'r teulu ehangach a wedyn 'naeth fy nheulu agos i fynd ati i drio ffeindio cefnogaeth i bobl ifanc yn y teulu bach yna," meddai Manon wrth Newyddion S4C.
"Fe wnaethon nhw ffeindio bod 'na ddim byd ar gael yng Nghymru yn gyffredinol ond yn enwedig yng ngogledd Cymru, a drwy gyfrwng y Gymraeg, doedd dim adnoddau, yn enwedig adnoddau celfyddydol."

Ychwanegodd Buddug: "Oedd o'n rwbath oeddan ni'n gweld oedd ar goll yn y gogledd...dio jyst ddim yma rili, nath Manon a fi neud lot o waith cysgodi mewn llefydd iechyd a lles ag un o'r petha oeddan ni jyst ddim yn dod ar draws o gwbl oedd unrhyw gymorth drwy'r Gymraeg ar gyfer galar.
"So oeddan ni'n meddwl bod o'n andros o bwysig, yn enwedig i bobl ifanc i gael nhw i ddechrau siarad...bod criw o bobl ifanc yn gallu dod at ei gilydd, i archwilio galar nhw mewn ffordd creadigol, a hynny drwy eu mamiaith nhw."

'Y Gymraeg yn ganolog'
Mae'r ddwy yn gobeithio y bydd y sesiynau yn cael eu harwain yn rhannol gan y bobl ifanc.
"Defnyddio'r gwaith dwi'n ei wneud fel ymarferydd creadigol, a'r gwaith 'dan ni'n neud gyda Blas ym Mhontio i ddod fyny gyda ryw fath o syniad sut fedrwn ni ddefnyddio'r celfyddydau a bod yn greadigol i drio llenwi'r bwlch yna," meddai Manon.
"'Dan ni'n awyddus iawn i gwrdd â'r bobl ifanc a chlywed eu syniadau nhw, 'dan ni isie fe mewn gwirionedd i gael ei arwain ganddyn nhw y bobl ifanc, ond fydd na byth bwysau ar unrhyw un i rannu dim byd dydyn nhw ddim isie."
Fe fydd y Gymraeg yn chwarae rhan ganolog yn y sesiynau hefyd yn ôl Manon.
"Dwi'n meddwl bod e'n bwysig dweud bod y Gymraeg yn ganolog i'r sesiynau, bydd bob sesiwn yn gwbl ddwyieithog, y Gymraeg yn arwain ond ma' 'na groeso i bobl os nad ydyn nhw'n siarad Cymraeg hefyd, fyddan ni ddim yn troi neb i ffwrdd," meddai.
'Hen bryd i ni newid hynna'
Mae angen newid y ffordd y mae pobl yn siarad a thrafod galar yn ôl Buddug.
"Dwi’n meddwl un o‘r petha’ pennaf ydi dim therapi ‘dan ni’n gynnig, ond mae o’n therapiwtig," meddai.
"‘Dan i’n gwbod bod siarad yn helpu, a ma’ cymunedau yn helpu, ag os fedrwn ni lunio cymuned a ffurfio cymuned o bobl ifanc sydd yn rhannu’r un profiadau, mi fedrwn ni feddwl a siarad am alar mewn ffordd andros o wahanol.
"Dydan ni ddim ar hyn o bryd a ma’n hen bryd i ni newid hynna."
Ychwanegodd Manon: "‘Dan ni gyd yn chwilio am bobl sydd yn deall, sydd yn gallu uniaethu efo ni, ag er fydd galar a stori pawb yn wahanol, mi fyddwn nhw’n gallu uniaethu mewn rhyw fodd, gyda’r teimladau a‘r profiadau ma’ nhw wedi cael.
"O sgwrsio gyda’i gilydd, gobeithio fydd hwnna yn rhoi ryw fath o synnwyr o gymuned iddyn nhw, yn rhoi cyfle iddyn nhw ddod at ei gilydd a gweld nad ydyn nhw ar ben eu hunain, taw dim nhw yw’r unig rai i brofi hyn i fynd trwy’r profiadau ‘ma.
"Does neb isio bod yn rhan o’r clwb yma, does neb isio bod yn dod i’r sesiynau, ond os ydyn nhw yn y sefyllfa yna, mae’n bwysig bod rhywbeth ar gael iddyn nhw fel bo’ nhw yn gallu ffeindio eu pobl."