Gwyliwch: John Toshack yn cael ei anrhydeddu yn Sbaen
Mae’r Cymro John Toshack wedi cael ei anrhydeddu am ei gyfraniad i glwb pêl-droed Real Sociedad yn Sbaen.
Fe dderbyniodd fedalau aur a diemwnt gan y clwb i gydnabod 386 o gemau wrth y llyw, cyn eu gêm gartref yn erbyn Real Madrid yn Anoeta nos Sadwrn.
Roedd cyn rheolwr Cymru, Toshack, sy'n 76 oed, wedi rheoli’r ddau glwb yn ystod ei yrfa.
Mae Toshack wedi bod yn dioddef sgil effeithiau niwmonia ar ôl iddo ddal Covid yn 2022.
Fe wnaeth y ddau dîm roi cydnabyddiaeth i Toshack, gan gynnwys rheolwr Real Madrid Xabi Alonso oedd yn ei ystyried fel “mentor” iddo.
Dywedodd Alonso: "Fyddwn i ddim wedi cael y llwyddiant rydw i wedi'i gael oni bai am John Toshack.
"Roeddwn i ar fenthyg yn ail adran Sbaen pan alwodd fi nôl i chwarae i Real Sociedad ac nid oedd y tîm mewn sefyllfa dda.
Gwyliwch John Toshack yn cael ei anrhydeddu gan Real Sociedad ar y ddolen isod:
Inline Tweet: https://twitter.com/RealSociedadEN/status/1966883407327068417
"Roeddwn i'n 19 oed, ond dywedodd ‘Mae gen i'r hyder ynot i helpu i droi'r tymor hwn o gwmpas’.
“Ers iddo roi'r hyder hwnnw ynof i, dwi erioed wedi edrych yn ôl.”
Cafodd Toshack, gyda chymorth ei deulu, ei longyfarch ar y cae hefyd gan lywydd Real Sociedad, Jokin Aperribay.
Real Madrid oedd yn fuddugol o 2-1.
Roedd Toshack wedi rheoli Real Madrid rhwng 1989 a 1990, ac yn 1999.
Yn ystod ei gyfnod yno fe enillodd deitl La Liga unwaith.
Roedd yn rheolwr ar Real Sociedad ar dri achlysur gan ennill y Copa del Rey unwaith.
Gwnaeth Toshack 397 o ymddangosiadau yn ystod ei yrfa i Gaerdydd, Lerpwl ac Abertawe.
Yn Lerpwl, roedd yn rhan o dair ymgyrch a enillodd deitlau yn ystod eu llwyddiant yn y 1970au, yn ogystal â Chwpan Ewrop yn nhymor 1976-77.
Yn Abertawe, fel chwaraewr-reolwr, fe wnaeth eu harwain yr holl ffordd o'r bedwaredd adran i'r adran gyntaf erbyn 1981.
Fe chwaraeodd dros Gymru 40 o weithiau ac roedd yn reolwr ar y tîm cenedlaethol yn 1994 a rhwng 2004 a 2010.
Llun: Real Madrid/Antonio Villabla