Elfyn Evans yn yr ail safle yn Rali Chile
Mae’r Cymro Elfyn Evans yn yr ail safle ar ddiwedd ail ddiwrnod y cystadlu yn Rali Chile.
Roedd Evans, o Ddolgellau, yn bumed yn dilyn chwe chymal agoriadol y rali ddydd Gwener.
Ond fe frwydrodd yn ôl i arwain ar ôl cymal naw, sef trydydd cymal ddydd Sadwrn.
Fe gollodd ei le ar frig y ras i Sébastien Ogier ar y degfed cymal ac roedd Evans ychydig dros chwe eiliad y tu ôl i’r Ffrancwr ar ddiwedd cymalau ddydd Sadwrn.
Fe fydd y rali’n dod i ben ar ôl pedwar o gymalau ddydd Sul.
Mae Evans yn arwain Pencampwriaeth y Byd ar hyn o bryd gyda thair rali yn weddill ar ôl Rali Chile.
Inline Tweet: https://twitter.com/RalioS4C/status/1966968495364862284
Llun: X/Elfyn Evans