
Cannoedd o bobl mewn protestiadau ym Mhowys
Roedd cannoedd o bobl yn y Drenewydd ym Mhowys ddydd Sadwrn wrth i ddau grŵp o ymgyrchwyr gynnal protestiadau yn y dref.
Cafodd protest heddychlon ‘Stopio’r Cychod’ ei chynnal ar Broad Street a’r Stryd Fawr.
Wedi ei drefnu gan Newtown Action Committee, cafodd y brotest ei chynnal er mwyn gwrthwynebu mewnfudiad anghyfreithlon i’r Deyrnas Unedig, yn ôl y trefnwyr.
Yn dal baneri Prydeinig a’r Ddraig Goch, fe wnaeth rhai cannoedd o bobl orymdeithio drwy Stryd Fawr y dref, gyda phresenoldeb uchel o swyddogion heddlu yn yr ardal.
Roedd gwrth-brotest hefyd yn cael ei chynnal ar y Stryd Fawr, wedi ei threfnu gan grŵp Mid Wales Against Fascism.

Nod y brotest honno oedd i “chwalu mythau a cham wybodaeth am ffoaduriaid a mewnfudwyr”.
Yn annerch y brotest roedd Aelod Seneddol Llafur dros Maldwyn a Glyndŵr, Steve Witherden, a’r AS Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville-Roberts.
Fe gafodd un swyddog heddlu ei anafu gydag un person yn cael ei arestio yn ystod y digwyddiad, yn ôl adroddiadau yn y Powys County Times.
Mae Newyddion S4C wedi cysylltu gyda Heddlu Dyfed-Powys am gadarnhad.
Daw’r protestiadau wedi i dros 100,000 o bobl fynychu protest Unite The Kingdom yn Whitehall, yn Llundain, a gafodd ei threfnu gan Stephen Yaxley Lennon, neu Tommy Robinson.
Roedd dros 1,500 o swyddogion heddlu yn y ddinas, gyda rhai swyddogion yn dioddef ymosodiadau ac yn cael eu targedu gan brotestwyr yn taflu gwrthrychau, yn ôl Heddlu'r Met.

Bydd sawl ffigwr yn annerch y dorf yn ystod y digwyddiad, gan gynnwys y cyn-gynghorydd i Donald Trump, Steve Bannon.
Mae rhai miloedd hefyd yn bresennol mewn gwrth-brotest yn y ddinas o’r enw March Against Fascism, wedi ei threfnu gan Stand Up To Racism.