Aberaeron: Cynllun amddiffynfa atal llifogydd i'w gwblhau wedi dwy flynedd

Aberaeron: Cynllun amddiffynfa atal llifogydd i'w gwblhau wedi dwy flynedd

Hir yw bob aros i drigolion a busnesau Aberaeron mewn ymgais i amddiffyn rhag y tonnau.

Ond wedi dwy flynedd o waith, bydd yr amddiffynfa newydd wedi'i gwblhau - a hynny chwe mis yn ddiweddarach na'r disgwyl.

Mae’r cynllun gwerth £31.5 miliwn wedi cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru (£26.85m) a Chyngor Sir Ceredigion (£4.74m).

Ym mis Hydref 2023, dywedodd y cyngor mai cwmni ‘BAM’ fyddai’n cwblhau’r gwaith.

Maen nhw wedi defnyddio dulliau peirianneg galed i geisio lleihau effaith codiad lefel y môr ar dref Aberaeron.

Mae hyn yn cynnwys gosod riff ffug tua 500 medr allan i’r môr ac adeiladu grwynau pren i atal effaith y tonnau.

Hefyd mae gatiau llanw wedi eu gosod er mwyn gallu atal gorlifiad y dŵr mewn tywydd garw.

'Cyfnod caled'

I fusnesau, mae'r ddwy flynedd diwethaf wedi bod yn heriol wrth aros i'r gwaith ddod i ben.

Mae rhai yn dweud eu bod nhw wedi colli allan ar fusnes oherwydd y gwaith oedd yn cael ei wneud ar eu stepen drws.

“Mae bendant wedi cal effaith, o’n i'n arfer cal lot yn mynd lawr y cefn i'r bar felly mae llai wedi bod yn pasio," meddai Llinos Thomas, perchennog Y Selar.

“Yn ariannol ni wedi colli mas achos bod llai o seddi ar gael.

“Mae e'n angenrheidiol- mae'r busnes yn teimlo lot mwy saff nawr - cyn nawr o'dd y dŵr yn dod dros yr harbwr.

“Fi’n meddwl bydd e yn dod â mwy o bobl i'r dref a bydd e'n le neis i bawb eistedd tu allan.

“Mae wedi bod yn hir... fi'n meddwl o'dd e'n hirach na beth o’n nhw'n meddwl o'dd e ar y dechrau, rhaid fi weud.

“O’n i'n gobeithio erbyn yr haf sydd newydd fod, bydde pethach wedi agor lan mwy ond ma' fe di cymryd mwy o amser.”

Un o fwytai a gwestai mwyaf poblogaidd tref arfordirol Aberaeron yw'r Harbourmaster.

Image
Dai Morgan
Mae'r gwaith wedi "cyfyngu" ar fusnes medd Dai Morgan

Credai rheolwr y busnes, Dai Morgan bod yr amddiffynfa atal llifogydd yn rhywbeth positif i'r dref.

“Fi’n meddwl bod e’n beth positif," meddai wrth Newyddion S4C.

"Fel busnes ma’r ugain mis diwetha’ wedi bod yn galed.

“Ni’n ffyddiog bod pethach yn mynd i weithio, ni ‘di gweld effaith ambell i storm diwedd llynedd cyn i’r wal cael ei gorffen. Ond chi’n gweld y gwahaniaeth yn syth.

“Fel ma’r bois ‘ma ’di gweithio, ma’ fe ‘di cyfyngu fel ni’n gallu, wedi gallu neud busnes.”

Ychwanegodd Claire McCowan o Gaffi McCowans: “Fel busnes ni’n eitha’ lwcus lle ni ‘di lleoli fan hyn yn Sgwâr Alban.

“Ni ddim rili’n gweld lot o be’ sy’n mynd ‘mlaen.

“Erbyn y diwedd ma’ fe ‘di drago 'mlaen bach, so fi’n credu nawr ma’ pobl yn edrych ymlaen at dod 'nôl.”

Image
Yr amddiffynfa newydd yn Aberaeron
Yr amddiffynfa newydd yn Aberaeron

'Prosiect cymhleth'

Roedd darnau o glai ar hyd Traeth y De a phroblemau gyda sefydlogrwydd yn ymwneud â phier y de ymysg nifer o heriau eraill oedd wedi achosi oedi i'r gwaith, meddai cwmni BAM.

Dywedodd aelod lleol y cyngor, y Cynghorydd Elizabeth Evans fe fydd yr holl oedi gyda'r gwaith "gwerth aros" amdano.

"Odd rhaid i'r cwmni ddelio â'r tywydd dros y gaeaf," meddai wrth Newyddion S4C.

"Pan chi ar y safle, dyna pryd chi'n deall beth sydd angen ei wneud so ma fe'n brosiect cymleth, tri, pedwar rhan i'r prosiect i gyd.  

“Ond fi’n falch iawn, mae wedi bod yn gyfnod hir ond gwerth e, gwerth yr aros. Mae teimlad gyffrous yn y dre.

“O’dd rhaid i'r gwaith gymryd lle achos odd gormod o stormydd, i sicrhau dyfodol Aberaeron, nid yn unig y trigolion, yn bwysig, ond hefyd y busnesau.

“Ma’ amynedd nhw wedi bod yn ofyn mawr ond ma'r data ddim yn dangos bod nifer o ymwelwyr wedi lleihau.

“Fi'n deall y heriau sydd wedi bod i fusnesau felly diolch i nhw ond nawr 'ryn ni'n edrych mlaen at y dyfodol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.